Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Llanelli yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt

Rhagfyr 18 2024

Mae tua 2,000 o bobl leol wedi parhau i gael triniaeth i’w mân anafiadau yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip yn ystod y mis cyntaf o newidiadau dros dro i oriau agor.

Mae teuluoedd fel Stephanie Roberts o Lanelli ac Emily Williams o'r Garnant yn gallu cael eu gweld am fân anafiadau, brathiadau a chlwyfau yn yr Uned Mân Anafiadau sydd ar agor o 8.00am tan 8.00pm, saith diwrnod yr wythnos.

Dechreuodd newid dros dro i oriau agor yn yr Uned Mân Anafiadau o 1 Tachwedd er mwyn diogelu cleifion a staff oherwydd nad oedd meddygon teulu priodol yn yr Uned Mân Anafiadau yn eu lle gyda'r nos a thros nos.

Mae gan rai cleifion sy'n mynychu'r uned anghenion mwy cymhleth nag y gall meddyg teulu eu trin, gan eu bod yn cael eu hystyried yn rhai brys ac felly ni allant gael eu trin yn yr Uned Man Anafiadau. Mae hyn yn golygu bod angen eu sefydlogi a'u trosglwyddo ymlaen.

Daeth Stephanie Roberts, sy’n byw yn agos iawn i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, â’i merch ddwyflwydd oed, Arya, i gael triniaeth ar ôl iddi fwrw ei phen gartref.

Dywedodd Stephanie: “Roedd Arya gartref gyda mi a mam a dad, pan gwympodd oddi ar y soffa a bwrw ei phen ar ei thegan canolfan chwarae.

“Roedd Arya yn ddewr iawn ond roedd yr anaf wedi chwyddo i ddwywaith y maint, ac wedi mynd yn borffor. Roedd yn ergyd weddol ar y ganolfan chwarae felly roeddwn yn poeni, gan ei fod yn anaf i'r pen. Roedd yn braf ei bod hi ychydig funudau i lawr y ffordd i’r Uned Mân Anafiadau a doedd dim rhaid i mi deithio hanner awr i ddarganfod a oedd ganddi cyfergyd.”

Roedd Stephanie yn gwybod am ddod i'r Uned Mân Anafiadau lle cafodd Arya ei gweld gan feddyg teulu a oedd yn gallu ei thrin a chynnig sicrwydd i Stephanie.

Dywedodd Jon Morris, Arweinydd Clinigol Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip: “Dyma’r union fath o fân anafiadau y gallwn ddelio ag ef yn effeithiol yn yr uned. Cafodd Arya archwiliad gan un o'n meddygon teulu a rhoddwyd y driniaeth briodol iddi cyn i ni ei rhyddhau. Gwnaeth mam Arya, Stephanie, y dewis cywir trwy ddod yn uniongyrchol i'r Uned Man Anafiadau.”

Daeth ei chwaer ag Emily Williams o'r Garnant i'r Uned Mân Anafiadau i gael archwiliad yn dilyn damwain traffig.

“Cyn gynted ag y digwyddodd y ddamwain, roedd gen i gur pen difrifol i’r pwynt bod poen yn mynd i lawr cefn fy ngwddf a doeddwn i ddim yn gallu symud,” meddai Emily.

“Yn y diwedd llwyddais i ddod allan o’r car a chyrhaeddodd yr heddlu. Ond po hiraf y mae wedi mynd ymlaen nawr, mae’r doluriau a’r poenau wedi dechrau dod i lawr fy mreichiau ac i lawr fy nghefn ac yn fy mrest.”

Er bod Emily’n teimlo’n sâl, penderfynodd ofyn i’w chwaer fynd â hi i’r Uned Man Anafiadau yn hytrach na galw am ambiwlans. Cafodd Emily driniaeth gan y meddyg teulu ac yna cafodd ei rhyddhau.

Nid dyma’r unig dro yn ddiweddar i Emily fod angen cymorth y GIG wrth i’w merch 13 oed ddechrau dioddef o boenau difrifol yn ei stumog.

“Roedd yn ystod hanner tymor. Roedd ganddi boen difrifol yn ystod y dydd - fe wnes i ei roi i lawr i fyg stumog. Hi yw'r math o berson i beidio â dweud wrthyf hyd yn oed os yw hi'n sâl, felly dwi'n gwybod pan mae hi'n sâl, dwi'n gwybod ei bod hi'n sâl iawn. Ffoniais 111 a siaradon nhw â fy merch a dywedon nhw ‘allwch chi fynd â hi lawr i’r ysbyty’. Felly rhoesant ddewis o Dreforys neu Glangwili i mi.

“Ar y pryd roedd Uned Mân Anafiadau ar agor 24/7 a gofynnais a allwn i fynd â hi i Lanelli ac fe ddywedon nhw na, dim ond ar gyfer mân anafiadau oedd hyn ac roedd amheuaeth bod hyn yn llid y pendics.”

Dywedodd Dr Morris: “Gwnaeth Emily y dewis iawn y ddau dro. Ni allem fod wedi trin poen yn yr abdomen ei merch yn yr Uned Man Anafiadau ond drwy ffonio 111 a dilyn eu cyngor drwy fynd yn syth i ysbyty acíwt, llwyddodd i gael yr help yr oedd ei angen arni.

“Rwy’n gobeithio bod Arya, Emily a’i merch yn teimlo’n llawer gwell nawr. Mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwneud y dewisiadau cywir pan fydd angen triniaeth arnynt,” meddai Dr Morris.

Os ydych chi'n byw yn, yn agos at, neu'n ymweld â Llanelli ac yn cael mân anafiadau yn ystod y dydd (rhwng 8.00am ac 8.00pm), gallwch barhau i gerdded i mewn i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.

Os bydd eich mân anaf yn digwydd rhwng 8.00pm ac 8.00am ac yn methu aros tan y diwrnod wedyn, defnyddiwch:

Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal ymgyrch wybodaeth ac ymgyrch yn y gymuned, gyda thaflenni a gwybodaeth ar-lein. Mae grŵp rhanddeiliaid gyda chynrychiolwyr o'r gymuned i adeiladu'r opsiynau ar gyfer y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol wedi'i sefydlu ac mae'n gweithio i ddatblygu opsiynau posibl ar gyfer y dyfodol. Unwaith y bydd opsiynau wedi’u datblygu, bydd cyfnod o ymgysylltu â’r gymuned i glywed barn unigolion sy’n byw yn Llanelli a’r cyffiniau.

DIWEDD