Mae Ysbyty Llanymddyfri wedi ynysu nifer o gleifion sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.
Mae pob claf yn sefydlog ac yn derbyn gofal ar ei ben ei hun ac yn unol â chanllawiau COVID-19 a chanllawiau atal heintiau, gyda defnydd priodol o Offer Amddiffynnol Personol a phellter cymdeithasol.
Nid yw gweddill yr ysbyty yn cael ei effeithio a chynghorir aelodau'r cyhoedd y gallant ddal i gael mynediad at wasanaethau a mynychu unrhyw apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw fel arfer.
Os oes gennych unrhyw symptomau o COVID-19 - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas - arhoswch gartref ac archebwch brawf trwy borth y DU.