9 Chwefror 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dechrau cyfnod ymgysylltu wyth wythnos i gasglu barn cleifion a'r gymuned leol ar y newidiadau arfaethedig i wasanaethau meddyg teulu ar gyfer pobl sydd wedi'u cofrestru gyda Meddygfa'r Sarn ym Mhontiets.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad y Bwrdd fis diwethaf i ofyn am adborth cyn gwneud penderfyniad ar argymhelliad i wasgaru'r rhestr cleifion i feddygfeydd cyfagos.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r feddygfa wedi wynebu heriau staffio parhaus a sylweddol ac ar hyn o bryd nid oes ganddi feddyg teulu a gyflogir yn barhaol. Mae'r adeilad ei hun yn fach ac yn cynnig cyfleusterau cyfyngedig. Ym mis Hydref 2025, yn unol â chanllawiau cenedlaethol, cynhaliodd y bwrdd iechyd Banel Meddygfa Wag i adolygu opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu yn yr ardal yn y tymor hir.
Mae'r argymhelliad, a wnaed gan y Panel yn cynnig yr ateb hirdymor mwyaf cynaliadwy i gleifion ac ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol yn ardal Aman Gwendraeth, sef trosglwyddo cleifion i'r feddygfa agosaf nesaf. Gallai hyn olygu Meddygfa Nant-y-Glo ym Mhontyberem, Meddygfa Minafon yng Nghydweli neu, i rai cleifion, meddygfeydd yn Llanelli.
Bydd y cyfnod ymgysylltu yn rhedeg rhwng 9 Chwefror a 6 Ebrill 2026 a bydd adborth yn helpu'r Bwrdd i ddeall sut y gallai trosglwyddiad posib i feddygfa arall effeithio ar gleifion, yn ogystal â'r hyn sy'n bwysicaf iddynt o ran darpariaeth gwasanaethau meddyg teulu.
Gall cleifion rannu eu barn trwy lenwi'r holiadur a fydd yn cael ei bostio i'w cyfeiriad cartref, neu ar-lein trwy wefan Dweud Eich Dweud www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk. Mae blychau casglu i ddychwelyd copïau papur o'r holiadur ar gael ym Meddygfa'r Sarn a Fferyllfa Gymunedol Pontiets.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus lle gall cleifion siarad â chynrychiolwyr mewn trafodaethau grŵp bach. Mae croeso i bawb fynychu'r naill sesiwn neu'r llall ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau a hysbysebwyd.
Cynhelir y digwyddiad cyntaf ddydd Mawrth 24 Chwefror, rhwng 1pm a 6.30pm, yn Neuadd Pontiets, Heol y Meinciau, Pontiets SA15 5TR.
Bydd yr ail ddigwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 3 Mawrth, rhwng 3pm a 6pm, yn Neuadd Goffa Pontyberem, 9 Heol Nant-y-Glo, Pontyberem SA15 5HU.
Gall pobl hefyd rannu adborth dros y ffôn drwy Hyb Cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5), neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk.
Yn ogystal, gellir rhannu barn gyda Llais drwy e-bostio westwalesenquiries@llaiscymru.org neu ffonio 01646 697610.
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn deall yr effaith y mae'r newid arfaethedig hwn wedi'i chael ar y gymuned leol ym Mhontiets ac felly rydym am wrando'n ofalus ar farn y rhai yr effeithir arnynt fwyaf.
"Bydd eich adborth yn ein helpu i archwilio pa gymorth a allai fod ei angen a bydd yn hysbysu'r Bwrdd pan fydd yn ystyried yr argymhelliad ym mis Mai. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb ym Meddygfa'r Sarn i gymryd rhan ac i rannu eu barn gyda ni.
Bydd yr holl adborth a ddaw i law erbyn 6 Ebrill yn cael ei goladu a'i gyflwyno i'r Bwrdd cyn ei gyfarfod ar 28 Mai, pan yr ystyrir yr argymhelliad.
Mae Meddygfa'r Sarn yn parhau i fod ar agor fel arfer yn ystod y cyfnod ymgysylltu.