Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi fferyllfeydd cymunedol i gefnogi eraill

Diweddariad COVID Hywel Dda

Mae fferyllfeydd cymunedol yn parhau i ddarparu rôl hanfodol i'n cleifion ond bydd rhai newidiadau gweithredol dros dro yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae fferyllfeydd wedi gweld cynnydd digynsail mewn gweithgaredd dosbarthu yn ystod yr wythnosau diwethaf, sy'n golygu bod presgripsiynau'n cymryd mwy o amser i'w prosesu ac felly dylai cleifion ganiatáu amser ychwanegol i gasglu.

Gall fferyllfeydd agor ar wahanol adegau i normal a gallant ofyn i gleifion giwio y tu allan i'r adeilad.

Mae fferyllfeydd cymunedol yn dal i allu cynnig gwasanaethau fel yr Adolygiad Defnydd Meddyginiaethau Rhyddhau, Cyflenwi Meddyginiaeth Frys a Atal Cenhedlu Brys, ond gall y modd y darperir y gwasanaethau hyn fod yn wahanol, ac efallai y gofynnir i gleifion gysylltu â'r fferyllfa dros y ffôn i gael ymgynghoriad cyn mynychu .

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael eich swm arferol o feddyginiaeth. Mae'n debygol y bydd eich meddyg teulu wedi rhoi nifer o bresgripsiynau i'ch fferyllfa i gyflenwi dros yr ychydig fisoedd nesaf wrth baratoi, ond bydd eich cyflenwad yn parhau i gael ei ddosbarthu'n fisol.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ers i’r pandemig COVID-19 ddechrau, mae fferyllfeydd cymunedol wedi gweld nifer digynsail a chynnydd yn y galw am feddyginiaethau a phresgripsiynau.

“O ganlyniad efallai y bydd angen i'ch fferyllfa gymunedol gau ei drysau am gyfnod o amser bob dydd er mwyn cynnal diogelwch cleifion a sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau fferyllol gwerthfawr y GIG rydych chi'n eu disgwyl. Mae hwn yn benderfyniad rydym wedi'i wneud yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn gwerthfawrogi y gallai’r penderfyniad hwn achosi rhywfaint o anghyfleustra ond mae’n gam mawr ei angen i ganiatáu cyflenwi meddyginiaethau yn ddiogel ac yn barhaus i’n cleifion ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch dealltwriaeth.”

Os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref dymheredd neu beswch newydd a pharhaus, hyd yn oed os yw'n ysgafn, peidiwch ag ymweld â'r fferyllfa.

Os ydych chi'n hunan-ynysu gofynnwch i'r teulu, ffrindiau neu gymdogion drefnu i godi'ch meddyginiaeth i chi. Os nad oes gennych unrhyw un a all gasglu'ch meddyginiaeth, siaradwch â'ch fferyllydd cymunedol i gael cyngor ar sut y gallant helpu.

Os ydych chi'n iach ac yn gallu ymweld â'r fferyllfa eich hun, meddyliwch sut y gallwch chi helpu teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n hunan-ynysu trwy gasglu eu meddyginiaethau ar eu rhan (efallai y bydd angen i chi fynd â ID gyda chi a bydd angen i chi wybod enw a chyfeiriad y person rydych chi'n casglu ar ei gyfer).

Os oes angen i chi ymweld â fferyllfa gymunedol, parchwch ragofalon pellhau cymdeithasol er mwyn amddiffyn eich hun, staff ac aelodau eraill o'r cyhoedd.

Am y wybodaeth ddiweddaraf, mae'n well cysylltu â'r fferyllfa cyn unrhyw ymweliad. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt eich fferyllfa leol yn www.bihyweldda.wales.nhs.uk/gofalygaeaf