17 Chwefror 2022
Mewn ymateb i rybudd “aros y tu fewn” a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dywydd cyn Storm Eunice, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi penderfynu cau canolfannau brechu torfol a safleoedd profi COVID-19 symudol ddydd Gwener 18 Chwefror.
Mae unedau profi symudol COVID-19 (wedi’i archebu trwy borth UK Gov) sydd wedi’u lleoli ar hyn o bryd yng Nghanolfan Rheidol (Aberystwyth), Penmorfa (Aberaeron), Maes Sioe Llwynhelyg (Hwlffordd), Iard Dafen (Llanelli) a Chilgeti ar agor heddiw, dydd Iau 17 Chwefror, ar gau ddydd Gwener 18 Chwefror, a byddant yn ail -agor ar ddydd Sadwrn 19 Chwefror.
Bydd unedau profi cymunedol COVID-19 (wedi’i archebu’n uniongyrchol drwy’r bwrdd iechyd) yn parhau ar agor ar gyfer achosion brys a phrofion symptomatig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae canolfannau brechu torfol ar agor heddiw, dydd Iau 17 Chwefror, ar gyfer apwyntiadau wedi’u trefnu a sesiynau galw heibio ar gyfer brechu, ac ar gau ddydd Gwener 18 Chwefror, a byddant yn ailagor ar gyfer apwyntiadau a sesiynau galw heibio ddydd Sadwrn 19 Chwefror.
Bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu’n uniongyrchol â phobl sydd ag apwyntiadau ar gyfer brechu neu brofion cyn-derbyn neu driniaeth ysbyty nad ydynt yn rhai brys ddydd Gwener 18 Chwefror i aildrefnu eu hapwyntiad. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Bydd apwyntiadau meddygol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol yn parhau fel y cynlluniwyd. Caniatewch ddigon o amser i deithio a gwiriwch y tywydd diweddaraf a diweddariadau lleol cyn gadael.
Os yw'n anniogel i chi deithio i'ch apwyntiad, peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl a chysylltwch â ni gan ddefnyddio'r rhif ffôn ar eich llythyr apwyntiad i roi gwybod i ni na allwch fod yn bresennol.
Ffynonellau defnyddiol o wybodaeth a diweddariadau: