Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan iechyd Abergwaun – dewch i ddweud eich dweud

9 Mehefin 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn symud ymlaen gyda chynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun yn Sir Benfro.

Bydd y bwrdd iechyd yn rhannu’r cynlluniau ar gyfer y cyfleuster arfaethedig yn ystod sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Phoenix, Wdig, ddydd Mercher 29 Mehefin. Gwahoddir y cyhoedd i fynychu unrhyw bryd rhwng 3pm-6pm. Cânt gyfle i ofyn cwestiynau a rhoi eu barn ar y gwasanaethau arfaethedig cychwynnol.

Byddai'r ganolfan newydd yn cynnal y boblogaeth ar draws gogledd Sir Benfro o Solfach a Thyddewi yn y gorllewin, i Abergwaun a Threfdraeth.

Nod hirdymor y bwrdd iechyd yw creu model gofal cymunedol integredig sy’n canolbwyntio ar y claf. Yn y pen draw, bydd cymunedau’n gweld iechyd a gofal yn symud o ganolbwyntio ar salwch i wasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau i atal afiechyd neu ddirywiad mewn iechyd, gan ddarparu cymorth yn gynt, a lle bynnag y bo modd, yn nes at adref.

Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Sirol Sir Benfro yn BIP Hywel Dda: “Mae’n ddealladwy i’r pandemig COVID-19 byd-eang arwain at newid ffocws dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym bellach yn awyddus i fynd allan ac ymgysylltu â phobl am y cyfleuster hwn. Rydym am rannu ein barn ar y ganolfan arfaethedig, myfyrio ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym yn flaenorol, ac wrth gwrs cael adborth pellach ganddynt.

“Rydym wedi ymrwymo i broses barhaus o ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid, felly’r digwyddiad hwn fydd y cyntaf. Bydd y broses hon o wrando ar gymunedau yn rhan bwysig o ddatblygu ein hachos busnes, a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am y cyllid.”

Mae Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Phartneriaid eraill i archwilio sut y gallwn gydweithio'n agosach.