Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli

Hywel Dda University Health Board logo

4 Chwefror 2023 [diweddariad 9 Chwefror 2023]

Noder os gwelwch yn dda: Newid lleoliad ar gyfer y digwyddiad galw heibio cyhoeddus i drafod y Ganolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli.

Yn dilyn adborth gan aelodau'r gymuned, mae'r digwyddiad galw heibio cyhoeddus ar ddydd Mawrth 21 Chwefror 2023 wedi ei adleoli i Ganolfan Selwyn Samuel (Ystafell Lliedi), Llanelli SA15 3AE rhwng 2pm a 7pm.

Bydd datblygiad Strategaeth Gwella Iechyd a Llesiant gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn nodi sut y bydd gwasanaethau iechyd lleol yn gweithio gyda phartneriaid, cymunedau, cleifion a’r cyhoedd i wella llesiant, mwynhau ffordd iach o fyw a mynd i’r afael â phrif achosion afiechyd ataliadwy a marwolaeth gynnar.

Fel rhan o hyn, cyflwynodd y bwrdd iechyd gais cynllunio ym mis Rhagfyr 2022 ar gyfer darparu Canolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli, a fydd yn cynyddu ystod a hygyrchedd gwasanaethau hanfodol ar gyfer y boblogaeth leol.

Bwriad y cyfleuster yw gwella iechyd a lles y gymuned a chenedlaethau'r dyfodol trwy ddarparu gwasanaethau arwahanol a chyfrinachol i'r gymuned leol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n dymuno ceisio cymorth gyda newid ymddygiad ffordd o fyw.

Roedd y cais cynllunio’n cynnwys lle ar gyfer tîm iechyd y cyhoedd Gwella Iechyd a Llesiant y bwrdd iechyd, y gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu, y gwasanaeth atal ac ymyrraeth gynnar i blant a phobl ifanc a ddarperir gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, gwasanaethau seicoleg i oedolion a phlant a Thîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol y bwrdd iechyd.

Dywedodd Joanna Dainton, Pennaeth Gwella Iechyd a Llesiant – Iechyd y Cyhoedd: “Bydd yr eiddo hwn yn galluogi darparu triniaethau ac ymyriadau atal gwell ac arloesol, lleihau marwolaethau, gwella iechyd a llesiant, lleihau trosedd a gwella diogelwch cymunedol.

“Mae’r bwrdd iechyd wedi archwilio lleoliadau posibl eraill, gan gynnwys yr hen orsaf heddlu yng nghanol y dref, ond mae wedi nodi Anchor Point fel yr eiddo mwyaf addas i’w ddatblygu.

“Mae canolfan gwella iechyd a llesiant newydd yn Llanelli yn hanfodol i strategaeth y bwrdd iechyd o symud o fod yn wasanaeth sy’n trin salwch, at fod yn wasanaeth sy’n hybu a chefnogi llesiant. Gan weithio gyda phartneriaid, cymunedau, cleifion a’r cyhoedd i alluogi ein cymuned i fwynhau ffordd iach o fyw a mynd i’r afael â phrif achosion afiechyd ataliadwy a marwolaethau cynnar.

“Mae ysmygu a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau ymhlith y prif achosion o afiechyd ataliadwy a marwolaethau cynnar ac mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn flaenoriaethau strategol i’r bwrdd iechyd ac aelodau’r Bwrdd Cynllunio Ardal.

“Yn yr un modd, bydd gwella gwydnwch plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiadau niweidiol yn sicrhau gwell canlyniadau iechyd a llesiant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r gymuned leol ynghylch y datblygiad arfaethedig hwn. Yn dilyn adborth gan aelodau'r gymuned, mae'r sesiwn galw heibio cyhoeddus wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 21 Chwefror 2023 rhwng 2pm a 7pm wedi ei adleoli i Ganolfan Selwyn Samuel (Ystafell Lliedi), Llanelli, SA15 3AE.

Gall aelodau o'r cyhoedd ddod draw i drafod cynlluniau gyda staff a rheolwyr y ddarpariaeth gwasanaeth arfaethedig – bydd hyn yn cynnwys Heddlu Dyfed Powys, staff y Bwrdd Iechyd a darparwyr gwasanaethau trydydd sector.

Bydd rhagor o wybodaeth a chyfle i bobl rannu eu barn hefyd ar gael yn fuan drwy wefan Dweud eich Dweud y Bwrdd Iechyd (yn agor mewn dolen newydd).

Ychwanegodd Joanna, “Rydym yn deall y gallai’r gymuned leol i Anchor Point ddymuno dysgu mwy am ein cynnig a’r gwasanaethau y bydd yn eu darparu.

“Rydym yn edrych ymlaen at drafod ein cynlluniau gyda’r gymuned yn y sesiwn galw heibio ym mis Chwefror ac rydym yn annog pawb a allai fod â diddordeb mewn deall mwy i fynychu.”

Mae Pwyllgor Datblygu Strategol a Chyflawni Gweithredol y bwrdd iechyd (16 Rhagfyr 2022) wedi ystyried y cynnig ac wedi cytuno iddo fynd i’r Bwrdd ffurfiol i’w gymeradwyo yn 2023.