Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan brofi cerdded i mewn barhaol newydd yn agor yn Aberystwyth

Bellach mae gan bobl yn Aberystwyth sydd â symptomau COVID-19 fynediad i gyfleuster profi cerdded i mewn parhaol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi trefnu bod Safle Profi Lleol (LTS) wedi'i leoli y tu mewn i hen adeilad Meithrinfa Padarn, (y tu ôl i, ond heb fod yn gysylltiedig â, Meddydfa Padarn), ar Ffordd Penglais.

Dylai pobl leol osgoi defnyddio'r maes parcio’r feithrinfa gyfagos, gan ei adael yn wag i'r bobl hynny sy'n cael profion i barcio yno. Rhaid i'r bobl sy'n mynychu'r ganolfan cerdded i mewn wisgo gorchudd wyneb.

Yn y cyfamser, mae'r cyfleuster gyrru drwodd yng Nghanolfan Rheidol bellach wedi'i adleoli i Aberteifi mewn ymateb i gynnydd mewn achosion yn yr ardal honno. Ni fydd y symudiad hwn yn effeithio ar drigolion Aberystwyth gan fod digon o gapasiti profi yn y LTS.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau’r LTS hwn ar gyfer pobl Aberystwyth. Nid oes gan lawer o drigolion y dref, gan gynnwys myfyrwyr, eu cerbyd preifat eu hunain er mwyn cael mynediad at gyfleusterau profi gyrru drwodd, felly mae'r opsiwn o gyfleuster cerdded i mewn yn bwysig iawn.

“Mae hwn yn gyfnod heriol ac rwy’n annog pawb i aros yn wyliadwrus a dilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen, cynnal pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd, neu ddefnyddio glanweithydd dwylo os nad yw golchi dwylo yn bosibl.”

Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau o'r feirws (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli / newid blas neu arogl) archebu prawf cyn gynted â phosibl. Gellir gwneud hyn trwy borth ar-lein y DU yn www.gov.uk/get-coronavirus-test.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr prifysgol sydd â symptomau COVID-19, ddarparu eu cyfeiriad lleol yn Aberystwyth wrth archebu prawf.

Peidiwch ag archebu prawf os nad oes gennych symptomau COVID-19 a peidiwch a mynychu canolfannau profi heb archebu'n gyntaf gan na fyddwch chi'n cael eich gweld heb apwyntiad.

Dilynwch y canllawiau hunan-ynysu diweddaraf sydd i'w gweld yma.

I gael y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i https://hduhb.nhs.wales/