Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth i wirfoddolwyr iechyd yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr

2 Mehefin 2025

Mae Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr yn digwydd rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn ac mae'n gyfle i gydnabod y cyfraniad gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i'n cymunedau ac i ddweud diolch.

Ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae gwirfoddolwyr amhrisiadwy 'Gwirfoddoli dros Iechyd' yn rhoi eu hamser am ddim i gefnogi cleifion, gwasanaethau ac adrannau i wella profiad cleifion yn ein hysbytai.

Dechreuodd Carla, o Sir Gaerfyrddin, ei gyrfa yn y GIG trwy wirfoddoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin: “Rhoddodd gwirfoddoli gyfle i mi archwilio llwybr gyrfa newydd a rhoi hwb i'm hyder. Rwyf bellach yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn yr ysbyty. Ni allaf ddiolch digon i'r tîm gwirfoddoli.”

Mae Carter, o Geredigion, yn wirfoddolwr yn Adran Fferyllol Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth: “Mae gwirfoddoli wedi rhoi cipolwg mor wych i mi ar wahanol adrannau yn yr ysbyty. Mae fy rôl yn dosbarthu meddyginiaethau i wardiau wedi dysgu sgiliau pwysig i mi a bydd yn amhrisiadwy mewn unrhyw yrfa yn y dyfodol. Rwyf wedi dysgu sut i gyfathrebu'n effeithiol â chleifion a staff. Mae'r rôl hefyd yn ffordd anhygoel o gysylltu â'r gymuned a chwrdd â phobl newydd. Mae wedi bod yn brofiad proffesiynol a phleserus.”

Mae Ali, o Sir Benfro, yn wedi bod gwirfoddoli yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd: “Mae cleifion wedi bod yn ymgysylltu’n fawr pan rydw i wedi gwneud gweithgareddau gyda nhw, ac mae wedi bod yn hyfryd gweld eu cynnydd. Rydw i wrth fy modd yn gweld yr effaith gadarnhaol sydd gen i a gwirfoddolwyr eraill ar lesiant cleifion. Mae wedi fy helpu i ddeall y gwahaniaeth gwirioneddol y mae pobl sy’n gweithio yn y GIG yn ei wneud.”

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol/Dirprwy Brif Weithredwr y bwrdd iechyd: “Rydw i’n hynod falch o’n holl wirfoddolwyr o fewn Hywel Dda ac, ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch i chi gyd am roi eich amser, eich sgiliau a’ch tosturi yn anhunanol i helpu ein cleifion a’n staff. Mae eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, diolch.”

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddysgu am y gwaith sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac mae’n darparu profiad bywyd go iawn o ryngweithio â chleifion ac ymwelwyr. Gall cefnogaeth gwirfoddol fod mor syml â sgwrsio â chlaf neu helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’r ward gywir ar adegau ymweld.

Gallech fod yn wirfoddolwr fferyllfa, yn gyfaill, yn gweithio gyda'n trolïau siop neu lyfrgell - neu mewn lleoliad clinigol fel ward plant neu adran achosion brys.

Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli neu brofiad gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwirfoddolwyr-a-phrofiad-gwaith/ (agor mewn dolen newydd)  ffoniwch 0300 3036138  (opsiwn 3) neu e-bostiwch: HDD.FutureWorkforceTeam@wales.nhs.uk