Mae uwch-feddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi canmol yr ymagwedd at arweinyddiaeth feddygol yn y sefydliad,
gan dynnu sylw at ei ymrwymiad i ddatblygu gallu arweinyddol meddygon ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae ymagwedd y BIP yn canolbwyntio ar ymgysylltu a galluogi’r gweithlu i wella ansawdd ei wasanaethau. Gan ddefnyddio dull system gyfan i wella ansawdd, mae’r rhaglen gydweithredol yn cynnwys gweithgareddau sy’n rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i staff i adnabod a gwneud newidiadau sy’n ychwanegu gwerth at y gofal y mae cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn ei gael.
Meddai Dr Phil Kloer “Rydym yn ymfalchïo yn y rhaglenni arweinyddiaeth feddygol ac amlddisgyblaethol yr ydym wedi’u creu, sy’n hyrwyddo, yn cefnogi ac yn annog datblygiad a gwelliant parhaus.”
“Mae’r sefydliadau sy’n perfformio orau yn y byd yn blaenoriaethu datblygiad arweinwyr clinigol, ac yn BIP Hywel Dda rydym yn anelu at ddarparu system gofal iechyd o’r ansawdd gorau, gyda chanlyniadau rhagorol i’n cleifion a’n poblogaeth. Rydym yn gwerthfawrogi ein staff a’r gwaith y maent yn ei wneud, ac rydym am i’r holl staff, ar bob lefel, ym mhob swydd, i deimlo’n gymwys ac wedi’u grymuso i wneud y newidiadau y maent yn gwybod fydd yn gwella profiad y claf a chanlyniadau.
“I wneud hyn, rydym yn adeiladu cymuned o feddygon ac arweninwyr eraill o bob rhan o’r sefydliad a all arwain y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau clinigol rhagorol”.
Mae rhaglenni arweinyddiaeth a mentoriaeth yn cynnwys y canlynol:
Mae’r bwrdd iechyd wedi cryfhau ei fuddsoddiad mewn arweinyddiaeth feddygol yn dilyn penodiadau diweddar: Mr Mark Henwood fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Gwasanaethau Acíwt Ysbyty – sydd ar hyn o bryd yn Lawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gofal wedi’i Drefnu sydd hefyd yn arwain ar ddatblygiadau mewn gwasanaethau canser gastro-berfeddol uwch yn y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol; Dr Sion James fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol – sydd ar hyn o bryd yn Feddyg Teulu â diddordeb mewn technolegau newydd a modelau gofal arloesol; a Dr Subhamay Ghosh fel Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar Ansawdd a Diogelwch – sydd ar hyn o bryd yn anesthetydd ymgynghorol â chefndir mewn addysgu, hyfforddi, ymchwilio a datblygu.
Maent, ynghyd â Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Trawsnewid a Gofal Iechyd seiliedig ar Werth, wedi cymryd rhan mewn fideo hyrwyddo byr yn siarad am bwysigrwydd buddsoddi yn ein meddygon ac am y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn Hywel Dda i wella gofal cleifion trwy rymuso a chryfhau arweinyddiaeth glinigol.
Fideo: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/100221
Mae ymdrechion y bwrdd iechyd i recriwtio staff wedi arwain yn llwyddiannus at nifer o benodiadau meddygol dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys swyddi meddygon teulu, ymgynghorwyr, meddygon arbenigol a chymrodyr clinigol.
Meddai Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol: “Rydym bob amser wrth ein bodd yn croesawu staff meddygol newydd, a’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad a ddaw gyda nhw. Edrychwn ymlaen at gyd-weithio â phob un ohonynt yn eu gwahanol swyddi, eu helpu yn eu datblygiad proffesiynol a’u helpu i ddod yn rhan o gymuned o feddygon ar draws y sefydliad a all arwain y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau clinigol rhagorol yn ogystal â gyrfa foddhaus.
Mae ymgyrch recriwtio gynhwysfawr ehangach yn parhau ar draws ystod o arbenigeddau yn ardal Hywel Dda, yn cynnwys nyrsys a therapyddion – http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/87093. Mae pob swydd wag yn cael ei hysbysebu ar wefan genedlaethol swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ar recriwtio, ymgyrchoedd neu ddigwyddiadau, dilynwch y bwrdd iechyd ar y cyfryngau cymdeithasol – LinkedIn / Twitter: @SwyddiHDdJobs / Facebook: Swyddi Hywel Dda Jobs.