Neidio i'r prif gynnwy

Bydwraig Hywel Dda yn derbyn Anrhydedd Pen-blwydd y Brenin

Mehefin 14, 2024

Mae bydwraig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.

Mae Carys Davies yn Uwch Fydwraig ac yn Arweinydd Newyddenedigol yn Ward Mamolaeth Gwenllian, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Dyfarnwyd y BEM iddi am wasanaethau i fydwreigiaeth, yn enwedig y gwaith y mae wedi’i wneud i gefnogi gofal babanod newydd-anedig a’u teuluoedd mewn ardal mor wledig o Gymru.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Dros Dro: “Rwyf wrth fy modd bod Carys wedi cael ei hanrhydeddu am ei blynyddoedd o ymroddiad a gwaith caled gyda BEM – mae’n gwbl haeddiannol.

“Mae Carys yn ased arbennig i wasanaethau mamolaeth yng Ngheredigion ac mae wedi bod ers bron i dri degawd.

“Mae hi wedi cymryd yr awenau wrth hyfforddi bydwragedd mewn sefydlogi newyddenedigol, sy’n elfen hanfodol o’n gwasanaeth.  Mae'n ofynnol i fydwragedd sefydlogi babanod sy'n cael eu geni ac sydd angen cymorth ychwanegol nes bod y tîm cludo newyddenedigol yn cyrraedd.

“Mae Carys wedi cymryd yr awenau o ran hyfforddi bydwragedd ym maes sefydlogi newyddenedigol, ac mae’n cael ei chydnabod o fewn y tîm fel arbenigwr yn y maes hwn.

“Diolch i’w hymdrechion diflino i hyfforddi a chefnogi staff, mae mwy o fydwragedd yn ennill cymhwysedd yn yr agwedd hon ar y practis. Mae ymrwymiad rhagorol Carys i’r gwasanaeth wedi’i gynnal dros nifer o flynyddoedd, ac mae’n ddiamau wedi achub bywydau babanod.

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n hynod falch bod Carys wedi’i chydnabod â BEM am ei gwasanaeth i fydwreigiaeth.

“Mae Carys wedi ymroi bron i 30 mlynedd i fydwreigiaeth ac mae’n fodel rôl i bawb sydd wedi gweithio gyda hi yn y cyfnod hwn. Mae'n deall anghenion y gymuned a sut i ddarparu'r gofal gorau oll i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell a gwledig.

“Diolch yn fawr, Carys, am eich gwasanaeth diflino a’ch ymrwymiad parhaus i iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru.”

Dywedodd Carys: “Cefais fy synnu’n fawr ond wrth fy modd o glywed fy mod wedi derbyn y BEM. Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl. Mae’n golygu cymaint i mi fod fy nghydweithwyr ym Mronglais yn meddwl fy mod yn deilwng o’r wobr hon.

“Rwyf wedi gweithio fel bydwraig ers 29 mlynedd ac yn mwynhau trosglwyddo’r hyn rwyf wedi’i ddysgu am ofal newyddenedigol i’m cyd fydwragedd. Rydyn ni i gyd yn cael ein hysgogi gan ddymuniad i ddarparu’r gofal gorau oll i’r teuluoedd a’r darpar famau yn ein gofal, yn enwedig pan fydd angen ychydig o help ychwanegol arnyn nhw.”

Diwedd