19 Mai 2022
Yn anffodus, gall Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau ein bod wedi derbyn cadarnhad gan Gyfarwyddwr y Cwmni y bydd Cartref Nyrsio Abermad yn Llanfarian, Aberystwyth yn cau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cartref Nyrsio Abermad: “Fel darparwr gofal cyfrifol, rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd i gynaliadwyedd ein holl gartrefi gofal i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gofal o safon uchel gyda’r nifer briodol o staff hyfforddedig.
“Mae Abermad wedi wynebu her recriwtio hirdymor a oedd yn golygu na allem staffio’r cartref i'r lefelau priodol. Er gwaethaf ein hymdrechion i ddenu staff gofal a nyrsio cymwys i'r cartref, nid ydym wedi llwyddo i ddatrys yr her recriwtio. O ganlyniad, ac er diogelwch yr holl breswylwyr sy’n byw yn y cartref, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau Cartref Nyrsio Abermad.”
Mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydweithio â rheolwyr y cartref i gefnogi’r preswylwyr a’u teuluoedd i ddod o hyd i ofal a lleoliadau amgen addas.
Nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer cau’r cartref, ond mae’r rheiny yr effeithir arnynt yn cael eu cefnogi drwy’r broses, ac mae gwaith i sicrhau gofal a lleoliadau amgen eisoes wedi dechrau.