Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd yn cytuno ar barhad y newid dros dro i lwybr atgyfeirio iechyd meddwl Ceredigion ynghyd ag ymestyn ymgysylltu i Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro

27 Tachwedd 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno i barhau â'r newid dros dro i'r llwybr atgyfeirio iechyd meddwl oedolion yng Ngheredigion tan fis Mawrth 2026. 

Yng nghfarfod y Bwrdd heddiw, cytunwyd hefyd ar gyfer proses ymgysylltu naw wythnos i ddeall effaith bosibl gwneud y newid hwn yn barhaol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.  

Mae'r penderfyniad i gynnwys Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn yr ymgysylltu yn adlewyrchu nod y bwrdd iechyd i archwilio a fyddai un llwybr atgyfeirio ar draws y tair sir yn gwella prydlondeb mynediad; creu capasiti clinigol ychwanegol o fewn timau iechyd meddwl cymunedol; a chefnogi model cyson a theg sy'n cyd-fynd â Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru. 

Ers mis Mawrth 2025, mae oedolion yng Ngheredigion sy'n chwilio am gymorth iechyd meddwl nad yw'n frys wedi cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu at wasanaeth 111 GIG Cymru a phwyso 2 (agor mewn dolen newydd), yn hytrach na thîm iechyd meddwl cymunedol y sir.  

Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu asesiad dros y ffôn gan ymarferydd llesiant, dan oruchwyliaeth nyrs iechyd meddwl gofrestredig, ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth amserol, ac atgyfeirio ymlaen lle bo angen.  

Mae meddygon teulu yn parhau i gyfeirio achosion brys neu gymhleth yn uniongyrchol at dimau iechyd meddwl cymunedol, gan sicrhau parhad gofal i'r rhai sydd ag anghenion brys neu gymhleth. 

Mae monitro ers mis Mawrth yn dangos rhai canlyniadau cadarnhaol: mae amseroedd aros ar gyfer asesiadau arferol wedi lleihau, gyda galwadau wedi'u hateb o fewn dau funud ar gyfartaledd pan allai pobl a atgyfeiriwyd at y tîm iechyd meddwl cymunedol fod wedi aros hyd at 28 diwrnod.  

Mae adroddiadau hyd yn hyn yn dangos gwell ymateboldeb ac integreiddio rhwng gwasanaethau gofal sylfaenol ac iechyd meddwl. Mae dilyniant rhagweithiol yn digwydd os nad yw cleifion yn cysylltu â'r gwasanaeth o fewn 72 awr o hysbysiad gan feddyg teulu. 

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn hygyrch, yn deg ac yn gynaliadwy.  

"Mae'r newid dros dro yng Ngheredigion wedi dangos rhai manteision cadarnhaol, ac rydym nawr eisiau clywed gan bobl sydd â phrofiad byw o gyrchu ein gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y tair sir cyn gwneud unrhyw benderfyniadau hirdymor."  

Ychwanegodd Dr Warren Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Gwasanaethau Iechyd Meddwl: "Mae'r ymgysylltu hwn er mwyn sicrhau ein bod yn creu gwasanaeth sy’n gweithio i bawb, sydd wedi'i siapio gan dystiolaeth a phrofiad byw. 

"Rydym yn ddiolchgar am adborth defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid yng Ngheredigion hyd yn hyn, ac edrychwn ymlaen at glywed gan gymunedau yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro." 

Bydd y cyfnod ymgysylltu yn rhedeg o ddydd Llun 8 Rhagfyr 2025 tan ddydd Llun 9 Chwefror 2026, a bydd y bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau ac elusennau iechyd meddwl ledled y rhanbarth.  

Gall aelodau'r cyhoedd hefyd rannu eu barn drwy lenwi'r holiadur ar-lein yn www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk (agor mewn dolen newydd), ffonio 0300 303 8322 a dewis opsiwn 5 ar gyfer 'gwasanaethau eraill' neu e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk o ddydd Llun 8 Rhagfyr 2025