Yn dilyn cyflwyno mesurau cloi dros dro yn ardal Llanelli mae'r bwrdd iechyd am dawelu meddyliau cymunedau lleol y gallant ddal i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd ysbytai a chymunedol, gan gynnwys gofal brys.
Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn a dylai cleifion fynd i Ysbyty Tywysog Philip os oes ganddynt angen gofal brys neu apwyntiad clinig wedi'i drefnu.
Mae llawdriniaethau a gynlluniwyd yn parhau i gael eu blaenoriaethu ar sail brys clinigol (gan gynnwys cleifion â chanser ac anghenion gofal brys eraill) a dylai pobl fynychu'r rhain os oes ganddynt ddyddiad wedi'i gadarnhau.
Mae'r mesurau hyn yn berthnasol i bobl ag apwyntiadau yn Ysbyty Tywysog Philip (waeth ble rydych chi'n byw), ac i bobl sy'n byw ym mharth cyfyngedig Llanelli. Mae trefniadau hefyd yn parhau gyda mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol - ffoniwch eich meddygfa, deintydd neu optometrydd i ddarganfod mwy a dilyn cyfarwyddiadau gan eich fferyllydd cymunedol.
Mae pob meddygfa a nifer fawr o fferyllfeydd cymunedol yn parhau i gynnig pigiad y ffliw trwy apwyntiad- unwaith eto gwiriwch y trefniadau gyda'r darparwyr hyn yn lleol a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'ch apwyntiad os ydych chi wedi cael cynnig un. Os nad oes gennych apwyntiad wedi'i drefnu a'ch bod yn un o'r categorïau “mewn perygl”, cysylltwch â'ch Meddygfa Teulu i wirio'r trefniadau ar gyfer eleni.
Mae ymweld yn parhau i fod yn gyfyngedig yn holl ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a rhaid i'r ymweliadau gael eu cynllunio ymlaen llaw a'u cytuno gyda'r Prif Nyrs / Nyrs â gofal.
Yr eithriadau i'r trefniant hwn yw:
Rydym hefyd wedi cyflwyno eithriadau lleol i hyn lle gallwch ymweld os ydych chi'n cefnogi rhywun â mater iechyd meddwl fel dementia, anabledd dysgu neu awtistiaeth, lle byddai peidio â bod yn bresennol yn achosi i'r claf fynd yn ofidus. Am ragor o wybodaeth am ymweld yn gyffredinol, gweler ein gwefan.
Ymhob achos rydym yn annog cleifion i barhau i ddilyn canllawiau atal a rheoli heintiau, yn ogystal â defnyddio gorchuddion wyneb a chynnal pellter cymdeithasol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a diweddariadau am gloi lleol ar wefan Llywodraeth Cymru yma.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion yn Hywel Dda: “Mae'n bwysig iawn bod pobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan y canllawiau newydd yn gwybod y gallant ddal i gael mynediad at wasanaethau yn yr un ffordd ag y maent wedi gallu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
“Ar yr un pryd, mae hefyd yn bwysig bod pobl yn dewis y gwasanaeth gofal iechyd cywir ar gyfer eu hangen fel y gall ein hysbytai reoli'r galw ychwanegol yr ydym bob amser yn ei wynebu yr adeg hon o'r flwyddyn.
“Byddwn yn parhau i flaenoriaethu gofal brys ac argyfwng, gan gynnwys llawdriniaethau wedi'u cynllunio ar sail brys clinigol, a hoffwn atgoffa pobl hefyd bod trefniadau ar waith ar lefel leol ar gyfer gwasanaethau cymunedol fel meddygon teulu, fferyllfeydd, optometryddion a deintyddion.
“Os oes angen i chi fynd i leoliad gofal iechyd, cofiwch ddilyn canllawiau ar hylendid dwylo, gorchuddion wyneb a phellter cymdeithasol a chysylltwch â'r Brif Nyrs neu'r nyrs â gofal os ydych chi am gael gwybod am ymweld â pherthnasau yn yr ysbyty.
“Cofiwch, mae COVID-19 yn glefyd difrifol sydd, yn anffodus, yn cael canlyniadau real a thrasig i lawer o bobl a theuluoedd. Byddwn yn ymdrechu i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cymunedau'n ddiogel a hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni barhau i weithio trwy'r trefniadau newydd hyn. "
Cofiwch - os ydych chi neu unrhyw aelod o'ch cartref yn datblygu symptomau COVID-19 mae'n bwysig eich bod chi'n hunan-ynysu a PEIDIWCH â mynychu unrhyw apwyntiadau nac ymweld â'n safleoedd.
Os oes gennych symptomau (tymheredd uwch, peswch parhaus newydd NEU golli neu newid arogl neu flas) archebwch brawf cyn gynted â phosibl. Gallwch wneud hyn trwy Borth y DU yma
Os ydych yn byw yn Llanelli ac yn cael problemau wrth archebu prawf gallwch gysylltu â ni ar 0300 333 2222 neu drwy covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk