10 Hydref 2024
Rhannodd tair nyrs a addysgwyd yn rhyngwladol eu straeon personol am symud i orllewin Cymru fel rhan o gyfarfod cyffredinol blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at 26 Medi 2024.
Siaradodd Sithara Kunjumol a Soniya Jose o Kerala, India, a Kandace Winter-Lawson, o Trinidad a Tobago, yn angerddol am eu profiad o adael eu teulu a’u mamwlad ar ôl i ddilyn eu gyrfa nyrsio yn y GIG a mynegwyd eu diolch am y croeso cynnes a gawsant gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chymunedau lleol.
Dywedodd Kandace, nyrs gofrestredig yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Glangwili: “Roedd symud o gynhesrwydd Trinidad a Tobago i dywydd oer, rhewllyd Llundain ym mis Ionawr yn dipyn o brofiad, ond ategwyd hyn gan y croeso cynnes, y gofal a’r gefnogaeth gan y tîm rhagorol yn Hywel Dda.
"Rwy'n ddiolchgar am y cyfleoedd anhygoel yr wyf wedi'u cael i ddatblygu fy ngyrfa yma, ac i allu cefnogi cydweithwyr nyrsio rhyngwladol eraill. Rwy'n gobeithio dod yn uwch-ymarferydd nyrsio yma un diwrnod. Dyma foment fwyaf fy ngyrfa hyd yn hyn - cyfarfod Ei Uchelder Brenhinol y Brenin ym Mhalas Buckingham ym mis Tachwedd 2023 ac rwyf mor ddiolchgar am y cyfle unwaith mewn oes hwn."
Dywedodd Soniya, Prif Nyrs, sydd hefyd yn gweithio yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Glangwili: “Rwyf wedi gallu datblygu fy ngyrfa ers ymuno â Hywel Dda, gan gynnwys symud i rôl band uwch. Rwy’n mwynhau’r cyfleoedd i ddatblygu yn y proffesiwn nyrsio ac rwy’n falch o allu darparu mwy o gymorth yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nglangwili.”
Ategwyd teimladau Soniya gan Sithara, nyrs gofrestredig yn Ward Myrddin yn yr ysbyty, a ychwanegodd: “Rwy’n ddiolchgar i fy rheolwyr, fy hyfforddwyr a’m cydweithwyr am fy helpu i ymgartrefu a’m grymuso i dyfu fy ngyrfa yma yn Hywel Dda. Rwyf hefyd yn mwynhau hyfforddi a chefnogi nyrsys rhyngwladol eraill yn fawr iawn a’u helpu i addasu yma.”
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi croesawu 97 o nyrsys a 6 meddyg o’r gymuned ryngwladol, ochr yn ochr â nyrsys o Gymru a gweddill y DU. Mae'n parhau i ddatblygu dulliau newydd o recriwtio a chadw er mwyn cryfhau ei weithlu ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Roedd yn brofiad teimladwy i wrando ar Sithara, Soniya a Kandace yn rhannu eu profiadau ac roeddwn i’n falch iawn o glywed cymaint maen nhw’n teimlo eu bod yn cael croeso a chefnogaeth fel rhan o deulu ein gweithlu.
“Ar ran y Bwrdd, dymunaf yn dda iddynt wrth ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y sefydliad ac edrychaf ymlaen at groesawu mwy o staff o’r gymuned ryngwladol yn y dyfodol.”
Yn ystod ei gyfarfod cyffredinol blynyddol, bu’r Bwrdd Iechyd hefyd yn myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, gan adolygu adroddiad blynyddol y sefydliad, a’i gyfrifon
ariannol. Roedd yr adroddiad a’r cyflwyniadau’n nodi gweithgareddau’r bwrdd iechyd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 i staff, cleifion a’r cyhoedd, beth sydd wedi bod yn heriol, a sut mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu gwella gwasanaethau i bobl leol.
Roedd prif themâu’r cyfarfod hefyd yn cynnwys sut mae’r bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd yn erbyn ei amcanion strategol, ei adferiad parhaus o’r pandemig, mentrau newydd, a’i berfformiad yn erbyn nifer o fesurau gan gynnwys gofal wedi’i gynllunio, diagnosteg a therapïau, gofal brys, canser, iechyd meddwl, profiad y claf, rheoli heintiau a'r gweithlu.
Cydnabuwyd hefyd gefnogaeth cleifion, teuluoedd a chymunedau lleol i elusen y bwrdd iechyd, Elusennau Iechyd Hywel Dda. Darparwyd enghreifftiau o weithgareddau codi arian a gyfrannodd at £2.66miliwn o incwm elusennol, ac o'r llu o wasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG a ariannwyd gan elusennau.
Ychwanegodd Dr Wooding: "Rhoddodd y digwyddiad blynyddol hwn gyfle i ni fyfyrio ar flwyddyn brysur arall, ond hefyd i edrych ymlaen at 2024/25. Er bod pethau'n dal yn heriol iawn i'r GIG, mae gennym weledigaeth glir i'n helpu i wella o'r effaith y pandemig, mynd i’r afael â’n her ariannol hirsefydlog, ac adeiladu system iechyd wydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
“Mae gennym wasanaethau bregus ac, er bod tosturi a phroffesiynoldeb ein staff i’w choleddu, rydym yn derbyn nad yw ansawdd y gofal a phrofiad y claf bob amser fel y byddem yn dymuno. Er ein bod wedi gwneud cynnydd da o ran lleihau nifer y cleifion sy’n aros am driniaeth, gwyddom ei bod yn anodd i bobl sy’n dal i aros ac mae’n ddrwg gennym am hyn.
“Diolch i bawb sy’n gweithio o fewn a gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, beth bynnag fo’ch rôl, am eich ymroddiad, proffesiynoldeb, dyfalbarhad a charedigrwydd wrth i ni ofalu am ein cleifion bob dydd, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn. Rydym yn falch o’n teulu Hywel Dda ac yn freintiedig i wasanaethu ein cymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro nawr ac yn y flwyddyn i ddod.