23 Medi 2021
Mae hawliau plant yn flaenllaw yn ardal Dyfed-Powys.
Mae Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wwsi mabwysiadu’r Siarter Hawliau Plant ar y cyd.
Crëwyd y siarter gyda chymorth Comisiynydd Plant Cymru i alluogi’r heddlu a’n partneriaid i arddangos yr ymrwymiad yr ydym eisiau gwneud tuag at bobl ifainc wrth inni ddod i gysylltiad â nhw ar draws yr ardal.
Gan fanylu ynghylch hawliau pobl ifainc sy’n dod i gysylltiad â’r asiantaethau hyn, mae’r siarter chwe phwynt yn nodi sut y byddant bob amser yn gweithio ar ran ac er budd plant a phobl ifainc, gan eu trin â pharch ac yn gyfrinachol.
Mae’n cyfeirio at holl gysylltiad pobl ifainc â’r asiantaethau hyn, ac o safbwynt yr heddlu, mae’n cynnwys dioddefwyr trosedd a’r rhai sydd wedi’u cyhuddo o dorri’r gyfraith.
Disgwylir i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr lynu wrth addewidion y siarter pryd bynnag maen nhw’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifainc.
Lluniwyd y siarter gyda phobl ifainc o bob cwr o ardal Dyfed-Powys yn dilyn ymarfer ymgysylltu sylweddol â phobl ifainc o bob oed, er mwyn deall beth oedd yn bwysig iddynt a’u disgwyliadau.
Cyfarfu nifer o ddisgyblion Ysgol y Felin â Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Delyth Raynsford, Aelod Annibynnol – Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Peter Greenslade, Pennaeth Corfforaethol Atal a Diogelu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mewn digwyddiad ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Mercher 22 Medi) i nodi lansiad swyddogol y siarter.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn wirioneddol falch o gefnogi’r Siarter Plant a Phobl Ifainc. Yr ydym wedi ymrwymo i wrando ar ein poblogaeth iau a sicrhau eu lles. Mae’n hynod bwysig bod pob plentyn yn gwybod bod ganddo’r hawl i gael mynediad at unrhyw wasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i sicrhau ei iechyd da. Mae gan bob plentyn yr hawl i fagwraeth hapus, iach a diogel.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter: “Yn Heddlu Dyfed-Powys, credwn fod gan blant yr hawl i fyw, dysgu a thyfu mewn amgylchedd diogel sy’n eu galluogi i ffynnu. Mae’n rhaid inni ofalu amdanynt a’u hamddiffyn, gan mai nhw yw ein hetifeddiaeth ar gyfer y dyfodol. Mae ein Siarter Hawliau Plant ar y cyd yn ein galluogi i arddangos a sefydlu’r gred hon drwy Ymagwedd Hawliau Plant ym mhob dim a wnawn, ac yn bwysig, ei fod wedi’i ddatblygu ar gyfer pobl ifainc gan bobl ifainc.
“Mae ein staff yn gweithio gyda’i gilydd a’n partneriaid er mwyn sicrhau bod yr holl blant yr ydym yn dod i gysylltiad â nhw’n cael eu trin â pharch ac yn gyfrinachol. Mae ein siarter yn cyfeirio at holl gyswllt pobl ifainc â’r heddlu, gan gynnwys dioddefwyr trosedd a’r rhai sydd wedi’u cyhuddo o dorri’r gyfraith.
“Braint yw lansio’r Siarter Hawliau Plant heddiw a ffurfioli ein hymrwymiad tuag at warchod hawliau’n plant a’n pobl ifainc. Rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r Siarter, ac i Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru am ein cefnogi drwy gydol y broses.”
Dywedodd Steffan Jones o flwyddyn 6 yn Ysgol Brynsierfel: “Braint oedd cael bod yn rhan o’r broses o greu’r siarter. Teimlwn fel ysgol bod llais pob plentyn yn bwysig dros ben, a bydd y siarter hwn yn ein helpu i ledaenu’r neges ar draws yr ysgol.”
Ychwanegodd Teagan Croucher, hefyd o flwyddyn 6 yn Ysgol Brynsierfel: “Mae mor bwysig bod pob plentyn yn gwybod am ei hawliau ac yn eu deall, a bydd y siarter hwn yn ein helpu ar y daith i ennill y wobr Aur ar gyfer Ysgolion sy’n Parchu Hawliau.”
Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Atal a Diogelu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n falch o fod yn gysylltiedig â chyflwyno’r Siarter Hawliau Plant Golau Glas. Yr ydym yn gweithio’n helaeth gyda phobl ifainc i ddatblygu eu sgiliau bywyd a gwella eu bywydau, ac mae’r Siarter yn tanategu popeth a wnawn gyda’n mentrau ieuenctid a’n gwaith addysg. Mae’r Siarter yn ddatganiad gwerthfawr sy’n dangos ein bod ni a’n partneriaid wedi ymrwymo i’n pobl ifainc, a dylai sicrhau pobl ifainc bod eu lles yn flaenllaw ym mhopeth a wnawn.”
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Rwy’n falch dros ben ein bod ni’n lansio’n Siarter Hawliau Plant, a’n bod ni wedi cymryd ymagwedd gydweithredol tuag at lunio siarter ar y cyd â’n partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
“Cyfamod hawliau dynol rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy’n rhoi set gynhwysfawr o hawliau i bob plentyn ac unigolyn ifanc, sy’n hollbwysig ar gyfer cefnogi a datblygu plant mewn cymunedau ledled y byd. Drwy sefydlu a lansio’r Siarter fan hyn yn ardal Dyfed-Powys, yr ydym yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio i gyflawni uchelgeisiau’r Cenhedloedd Unedig.
“Credwn fod gan bob plentyn hawl i fyw, dysgu, chwarae a thyfu mewn amgylchedd diogel o fewn ein cymunedau. Ein hymrwymiad yw sicrhau bod cyfrifoldebau a phwerau Heddlu Dyfed-Powys, fy Swyddfa i, a rhai’n partneriaid yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd sy’n gyson â’r Confensiwn ac yn galluogi plant a phobl ifainc i gyfrannu at adeiladu cymunedau diogel ac iach ar gyfer y dyfodol.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r Siarter, ac i Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru am ein cefnogi drwy gydol y broses.”
Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Bu’n bleser gweithio ar y fenter hon gyda Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac eraill sy’n cyflenwi gwasanaethau ar draws y rhanbarth, a gweld sut maen nhw wedi ymrwymo i roi hawliau plant wrth galon eu gwaith gyda phobl ifainc.
“Rwy’n arbennig o falch bod y plant eu hunain wedi chwarae rôl ganolog, sy’n elfen graidd o unrhyw ymagwedd hawliau plant. Os ydyn ni eisiau bod o ddifri am ddiogelu hawliau dynol plant fel cymdeithas, mae angen inni sicrhau bod plant yn profi’r hawliau hynny ym mhob agwedd o’u bywydau, a bod y cyrff cyhoeddus sy’n eu gwasanaethu’n eglur yn eu hymrwymiad tuag at yr hawliau hynny.”