12 Chwefror 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi llwyddo i benodi partneriaeth meddygon teulu newydd i gymryd drosodd y contract i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) i gleifion sydd wedi cofrestru gyda phractisau Cross Hands a’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin o 1 Ebrill 2024.
Mewn cyfarfod o’r Bwrdd Iechyd ym mis Rhagfyr, penderfynwyd cychwyn ar broses dendro agored. Mae hyn bellach wedi dod i ben gyda phenodiad Partneriaeth Aman Tawe i gymryd drosodd y contract.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Partneriaeth Aman Tawe yn dîm amlddisgyblaethol profiadol sydd â hanes cryf o ddarparu gofal o ansawdd da i’w cleifion mewn practis cyfagos.
“Yn ystod y broses gyfweld, disgrifiwyd eu gweledigaeth ar gyfer diwallu anghenion cleifion y feddygfa, ac mae’r dyfarniad contract hwn yn cynrychioli cyfle i gadw’r gwasanaethau pwysig hyn yng nghalon y gymuned y maent yn ei gwasanaethu.
“Mae hwn yn ganlyniad cadarnhaol i gleifion a’r gymuned leol.”
Bydd cleifion cofrestredig yn parhau i dderbyn eu gofal gan y tîm practis presennol tan 31 Mawrth 2024, a bydd Partneriaeth Aman Tawe yn cymryd drosodd y gwaith o redeg y Practis o 1 Ebrill 2024.
Bydd cofrestriadau cleifion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r practis newydd fel nad oes angen i gleifion wneud unrhyw beth. Mae trafodaethau am staff ac adeiladau yn mynd rhagddynt rhwng y ddwy bartneriaeth er mwyn sicrhau trosglwyddiad mor ddidrafferth â phosibl.
Mae’r bwrdd iechyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i’r tîm ym Mhartneriaeth Feddygol Cross Hands a’r Tymbl drwy gydol y cyfnod heriol hwn ac mae’n siŵr y byddant yn croesawu ac yn cefnogi Dr Williams a thîm Partneriaeth Aman Tawe.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 303 8322 (opsiwn 5) neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk