Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) estyn ei ddiolch a'i werthfawrogiad i bartneriaid, contractwyr, cymunedau lleol, staff a gwirfoddolwyr wrth inni baratoi i ddirwyn ein hysbyty maes COVID-19 yn Ysbyty Enfys Selwyn Samuel, Llanelli i ben.
Gall y bwrdd iechyd gadarnhau y bydd y cyfleuster, a oedd yn allweddol yn y gwaith o ofalu am gleifion nad ydynt yn COVID-19 ac ôl-COVID-19 ar anterth y pandemig, yn cael ei i roi i ‘aeafgysgu’ o ddydd Gwener yma, 25 Mehefin.
Bydd Ysbyty Enfys Selwyn Samuel yn cael ei gadw tan fis Mawrth 2022 fel cyfleuster ymchwydd pe bai tonnau pellach o coronafeirws. Roedd y cyfleuster yn darparu gofal i 263 o gleifion rhwng Tachwedd 2020 a Mehefin 2021. Rhyddhawyd ei glaf olaf ddydd Mawrth (22 Mehefin).
Er gwaethaf dirwyn i ben ysbytai maes, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pwyll ac yn atgoffa'r cyhoedd bod y pandemig yn parhau i fod yn weithredol, gyda dechrau trydedd ton o'r feirws, ac ni ddylai pobl dybio bod penderfyniadau cynllunio yn arwydd o ddychwelyd i normalrwydd ar unwaith. Yn benodol, mae'r bwrdd iechyd yn annog trigolion a chymunedau lleol yn gryf i barhau i ddilyn canllawiau cenedlaethol ar bellhau cymdeithasol, hylendid dwylo a defnyddio gorchuddion wyneb i helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu.
Dywedodd Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ac Arweinydd Clinigol ar gyfer rhaglen Ysbytai Maes: “Rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu defnyddio ein hysbytai maes i ofalu am gleifion a rheoli'r galw yn enwedig yn ystod ail don pamdemig COVID -19. Daeth ein holl bartneriaid, gan gynnwys Cyngor Tref Llanelli a busnesau preifat, ynghyd ar gyflymder a graddfa fawr yn gynnar iawn yn y pandemig a'i gwneud yn bosibl i ni gael y cyfleusterau hyn ar gael inni.
“Rwyf am ganmol yn arbennig cyfraniad rhagorol ein staff, a gwirfoddolodd llawer ohonynt i ddod i weithio yn yr ysbytai maes ac a gafodd eu hadleoli o’u rolau ysbyty a chymunedol, am eu hymdrechion i ofalu am gleifion mewn lleoliadau newydd ac anghyfarwydd. Rydym wedi torri tir newydd ac wedi dysgu cymaint, ac ar yr un pryd cadw safonau uchel iawn o ran gofal cleifion a phrofiad y claf. Rwy’n hynod falch ohonoch chi i gyd. ”
Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “O'r cychwyn cyntaf roedd yn amlwg na allem ragweld y ffordd y byddai'r feirws yn lledaenu ac yn effeithio ar ein poblogaeth leol, ac rydym wedi gwybod y byddai bod yn hyblyg yn ein defnydd o'r cyfleusterau hyn wedi bod yn allweddol i'r ffordd roeddem ni'n gofalu am gleifion.
“Rydym yn falch ein bod wedi gallu dod â rhai o'n hysbytai maes i ddefnydd i helpu i reoli'r galw yn ystod yr ail don yn benodol, ac ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ba lefel o gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnom i fynd ymlaen. Rydym yn parhau i gymryd agwedd bragmatig a gochelgar trwy gadw rhai gwelyau yn ardal Sir Gaerfyrddin.
“Hoffwn yn benodol estyn ein diolch i Gyngor Tref Llanelli am eu cefnogaeth barhaus i ganiatáu cadw Canolfan Selwyn Samuel, a fydd yn caniatáu inni gynnal sylfaen gwelyau ar gyfer y dyfodol agos.
“Mae'r pandemig hwn wedi cael effaith drasig ar fywyd dynol, ac er gwaethaf llwyddiant cyflwyno'r brechlyn yn lleol ac yn genedlaethol, mae'n hanfodol bod ein cymunedau lleol yn parhau i ddilyn canllawiau cenedlaethol ar bob agwedd ar gyfyngiadau clo, ymbellhau, hylendid a defnyddio gorchuddion wyneb - mae angen i ni i gyd barhau â'r ymdrech ar y cyd yn y frwydr yn erbyn COVID-19. "