1 Mawrth 2024
Mae llwyddiant rôl Newydd a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynyddu sgiliau a hyder staff yn y Gymraeg yn cael ei ddathlu ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Cyflwynwyd rôl Swyddog Codi Hyder, a ariennir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn 2023 fel rhan o’r cynllun Cymraeg Gwaith er mwyn darparu cyfres o gyrsiau codi hyder byr i staff.
Mae’r gyfres o gyrsiau wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda 121 aelod o staff yn mynychu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o feysydd amrywiol gan gynnwys nyrsys, trinwyr ffôn, prentisiaid, ymgynghorwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl, staff gweinyddol a llawer mwy.
Dywedodd Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg Hywel Dda: "Fel bwrdd iechyd rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle i'n staff a defnyddwyr gwasanaeth. Mae data sgiliau iaith ein gweithlu yn dangos bod canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn gweithio i'r bwrdd iechyd, fodd bynnag, yn dilyn adborth blaenorol mae'n amlwg bod llawer yn teimlo bod diffyg hyder yn eu dal yn ôl.
“Trwy’r rôl newydd hon, rydym wedi gallu darparu cyrsiau codi hyder i staff, a’r pwrpas yw newid arferion ieithyddol a gwella hyder, fel bod ein staff yn fwy tebygol o ddefnyddio’u Cymraeg i gyfathrebu ag eraill a chwblhau tasgau yn y gweithle trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Yn dilyn adborth cadarnhaol a llwyddiant yn ystod 2023, mae’r bwrdd iechyd yn falch o gadarnhau y bydd rôl swyddog codi hyder llawn amser (a gyflogir gan ddarparwr Dysgu Cymraeg, Prifysgol Aberystwyth), yn parhau â’u gwaith gyda’r bwrdd iechyd am 12 mis arall.
Y nod yw cynnig cyrsiau codi hyder byr a gweithio gydag unigolion i newid eu defnydd o’r Gymraeg gyda chleifion. Bydd y gyfres o gyrsiau codi hyder yn agored i holl staff y bwrdd iechyd, gyda phwyslais arbennig ar staff sydd â chyswllt uniongyrchol â chleifion, megis nyrsys ysgol, prentisiaid, porthorion a staff sy’n gweithio ym maes dementia.