18 Mai 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gyhoeddi ein bod bellach mewn sefyllfa i wneud newidiadau i’n canllawiau ymweld ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.
Bydd y trefniadau ymweld yn dod i rym o ddydd Llun 22 Mai 2023 ac maent fel a ganlyn:
- Gall un partner geni fynychu rhwng 10.00am a 8.30pm (sylwer, ar unedau dan arweiniad bydwragedd a wardiau geni, y caniateir partneriaid geni yn ystod y cyfnod geni gweithredol waeth beth fo'r amser o'r dydd).
- Mae ymweliadau ychwanegol ar gael o 2.00-4.00pm a 6.00-8.00pm.
- Uchafswm nifer yr ymwelwyr fesul claf yw dau.
- Bydd unrhyw blant sy'n ymweld yn ffurfio rhan o u chafswm o ddau ymwelydd fesul gwely. Mae’n rhaid trafod unrhyw anawsterau mewn perthynas â hyn a’u trefnu gyda phrif nyrs y ward a defnyddio disgresiwn yn unigol (e.e. os oes brawd neu chwaer ifanc neu ddau frawd neu chwaer ifanc, gall yr ail oedolyn sy’n ymweld â nhw ddod gyda nhw).
- Rhaid i blant sy'n ymweld fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol sy'n ymweld bob amser.
Mae’r bwrdd iechyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth ac amynedd pawb wrth addasu mynediad ac ymweliadau â’r Gwasanaethau Mamolaeth dros y misoedd diwethaf.