Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd gan fod ei ysbytai yn gweithredu dan bwysau eithafol. Er bod lefelau gweithgarwch yn uchel yn y gaeaf, mae eleni yn cynnwys heriau ychwanegol y pandemig COVID-19, gan gynnwys prinder staff clinigol.
Mae’r bwrdd iechyd wedi ymateb i achosion o’r feirws ym mhob un o’i ysbytai cyffredinol acíwt, gan arwain at gau rhai wardiau ym mhob ysbyty acíwt yn ardal Hywel Dda yn ystod y mis diwethaf. Yn y cyfamser, cyhoeddodd y bwrdd iechyd ei fod yn trosglwyddo’r holl gleifion o Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri i Ysbyty Dyffryn Aman yn Glanaman, ger Rhydaman, gan fod nifer o aelodau staff, gan gynnwys nyrsys, yn y ddau ysbyty yn hunan-ynysu ar ôl profi’n bositif am COVID-19.
Arweiniodd hyn at gyfyngiadau sylweddol ar y gweithlu ar y ddau safle, a olygodd bod cynnal gwasanaethau ysbyty cymunedol a nyrsio cymunedol wedi mynd yn rhy heriol.
Mae trosglwyddiad y feirws yn y gymuned hefyd yn uchel iawn ar draws y tair sir. Yn y saith diwrnod ddiwethaf, nifer yr achosion o COVID-19 yn Sir Gaerfyrddin oedd 305.7 i bob 100,000 o’r boblogaeth, 165.1 i bob 100,000 yng Ngheredigion a 170.1 ym mhob 100,000 yn Sir Benfro.
Oherwydd yr heriau hyn, mae’r bwrdd iechyd mewn sefyllfa anodd iawn gan nad yw’n medru staffio’r holl welyau y byddai fel arall disgwyl iddynt fod ar agor ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn ogystal, bu’n rhaid iddo drosglwyddo rhai staff a chleifion i ysbytai maes yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Felly, mae angen help y cyhoedd ar y bwrdd iechyd i leddfu’r pwysau ar y gwasanaeth.
Meddai Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae nifer o frechlynnau’n cael eu datblygu ac mae’r newyddion am gymeradwyo un o’r rhain yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Ond, mae’n hanfodol i’r cyhoedd ddeall ein bod yn dal i fod ar bwynt peryglus iawn yng nghylch y pandemig ac mae cryn dipyn i’w wneud eto cyn y gallwn ddychwelyd i normalrwydd.
“Rydym yn delio â llawer mwy o achosion COVID-19 yn ein hysbytai nag yn y gwanwyn. Yn anffodus, mae hyn hefyd wedi effeithio ar ein gweithlu ac wedi effeithio’n ddifrifol ar ein capasiti a rhwystro ein cynlluniau uwchgyfeirio.
“Er ein bod yn hyderus bod nifer yr achosion datganedig mewn ysbytai bellach yn gostwng, a’n bod yn gallu glanhau wardiau yn ddwfn a’u hail -agor yn ddiogel, y broblem fwyaf sy’n ein hwynebu o hyd yw salwch staff. Mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar ein gallu i ddarparu gofal i bawb ond y rhai â chyflyrau meddygol argyfyngol / brys, neu’r rhai hynny sy’n defnyddio gwasanaethau canser. Mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn ddiogel ac yn cael eu blaenoriaethu o ran angen clinigol, fel bod staff yn gweithredu’n ddiogel.
“Rwyf am fod yn glir iawn y byddwn yn dod trwy hyn, ond mae angen help y cyhoedd arnom nawr i atal trosglwyddo’r feirws yn ein cymuned a rhoi cyfle i’n gweithlu wella, fel eu bod yn gallu darparu gofal diogel ac effeithiol i’n cleifion.”