Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ennill pedwar Gwobr GIG Cymru

26 Hydref 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu ar ôl ennill pedair gwobr yng Ngwobrau GIG Cymru 2022, gan gynnwys gwobr arbennig y Cyfraniad Eithriadol.

Gyda’i gilydd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno tîm amlddisgyblaethol o wahanol weithwyr iechyd a gofal proffesiynol i ddarparu gofal canolraddol, sef gofal sydd ei angen arnoch ar ôl ysbyty neu i osgoi derbyniadau i’r ysbyty.

Mae’r tîm yn defnyddio dull ‘cartref yn gyntaf’ i gefnogi pobl trwy gyfnod o adferiad ac asesu mor agos at eu cartrefi â phosibl. Yn ystod ei 12 wythnos gyntaf o weithredu, helpodd y tîm ryddhau 179 o bobl adref o'r ysbyty.

Yn sgil y cydweithio llwyddiannus hwn enillodd y tîm y wobr am Ddarparu Gwasanaethau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, a hefyd y wobr arbennig am Gyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal.

Derbyniodd tîm fferylliaeth Ysbyty Glangwili y wobr am Gyfoethogi Llesiant, Gallu ac Ymgysylltiad y Gweithlu Iechyd a Gofal am brosiect gwella gwasanaeth a oedd yn seiliedig ar fewnwelediad gan staff. Lleihaodd y prosiect nifer y dosau o feddyginiaeth cleifion a fethwyd, gwell effeithlonrwydd gwaith a gwell boddhad a lles staff.

 

Yn y cyfamser, cyflwynwyd y wobr Darparu Gwasanaethau mewn Partneriaeth ar draws GIG Cymru i brosiect partneriaeth rhwng y bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i ddarparu cynllun peilot gofal brys yr un diwrnod yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae’r cynllun peilot, y credir mai hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn darparu ffordd uniongyrchol i griwiau ambiwlans fynd â chleifion priodol i mewn i’r uned gofal brys yr un diwrnod yn hytrach na’r Adran Achosion Brys. Mae wedi lleihau oedi wrth drosglwyddo yn sylweddol, gan ryddhau timau WAST yn ôl i'r gymuned, lleihau gorlenwi yn yr Adran Achosion Brys, gan wella profiadau a chanlyniadau cleifion o bosibl.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae’n wych gweld Gwobrau GIG Cymru yn ôl ar gyfer 2022. Maent yn destun balchder mawr i holl staff y GIG sy'n cysegru eu bywydau i anghenion a gofal eraill.

“Mae’r straeon ysbrydoledig am ymroddiad, dyletswydd ac arloesedd yn y modd yr ydym yn gofalu am fywydau eraill ac yn eu gwella mewn cyfnod mor heriol yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Mae’n taflu goleuni ar y staff gwych ac ymroddedig sydd gennym yn gweithio i GIG Cymru.

“Rwy’n hynod falch o fod y gweinidog sy'n gyfrifol am GIG Cymru ac rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi’u henwebu ac sy’n ennill gwobrau. Diolch ichi am eich gwasanaeth ac am fod yn esiampl gadarnhaol i’r GIG a phobl Cymru.”

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym mor falch bod yr ymdrechion anhygoel a’r ymroddiad i ofal cleifion y mae ein staff yn eu dangos bob dydd, wedi’u cydnabod yn y gwobrau cenedlaethol hyn. Mae’n wych bod dwy o’n gwobrau wedi bod i gydnabod y gwaith rydym yn ei wneud gyda phartneriaid, a’r llall wedi’i harwain gan staff rheng flaen sydd wedi’u grymuso i wneud cymaint o wahaniaeth i gleifion a staff.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled ac ymroddiad ein timau wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau’r GIG eleni.

“Trwy waith partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn cyflawni gwaith gwerthfawr wrth ddarparu adsefydlu tymor byr i gleifion yn eu cartrefi eu hunain i’w helpu i fynd adref o’r ysbyty yn gyflymach ac osgoi derbyniadau diangen i ysbytai a chartrefi gofal.”

Caiff Gwobrau GIG Cymru eu trefnu gan Gwelliant Cymru (agor mewn dolen newydd), sef y gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dychwelodd y gwobrau eleni yn dilyn bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig COVID-19. Lansiwyd yn wreiddiol yn 2008 i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 60 oed, a chydnabod a hyrwyddo arfer da ledled Cymru. 

Noddwyd y gwobrau eleni gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, C-Stem ac Armis, Core to Cloud, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac RCN Wales.

Derbyniwyd ceisiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, sy’n dangos y safon uchel o waith arloesol ac amrywiol sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau pobl Cymru.

Gyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal

Ddarparu Gwasanaethau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Gyfoethogi Llesiant, Gallu ac Ymgysylltiad y Gweithlu Iechyd a Gofal

Darparu Gwasanaethau mewn Partneriaeth ar draws GIG Cymru

I ddarllen mwy am yr enillwyr, ewch i www.nhswalesawards.wales.nhs.uk (agor mewn dolen newydd).

 

I ddarllen mwy am noddwyr y gwobrau, ewch i

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru,

C-Stem  

Armis,

Core to CloudYmchwil Iechyd a Gofal Cymru

RCN Wales.

 

Mae pob dolen yn agor mewn tudalen newydd.