27 Medi 2022
Wrth ddod i'r ysbyty mae'n bwysig bod cleifion yn dod â'u meddyginiaeth gyda nhw, wedi'u rhagnodi a'u prynu dros y cownter.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn annog y cyhoedd i ddod â’r holl feddyginiaethau i’r ysbyty gan gynnwys arosiadau cleifion mewnol, apwyntiadau clinig cleifion allanol, asesiadau cyn llawdriniaeth a gwasanaeth meddygol y tu allan i oriau er mwyn helpu i sicrhau diogelwch cleifion.
Mae rhestr gywir o'ch meddyginiaethau yn hanfodol i gynnal parhad gofal. Gall camgymeriadau meddyginiaeth wrth ragnodi, dosbarthu, neu roi cyffur achosi effaith niweidiol, a dyma un o'r achosion mwyaf ataliadwy o niwed i gleifion.
Dywedodd Marisa Webber, Nyrs Rheoli Meddyginiaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd dod â meddyginiaethau gyda chi i’r ysbyty yn helpu clinigwyr i egluro’r meddyginiaethau sydd i’w rhagnodi, y dos i’w roi, a’r llwybrau gweinyddu. Gall peidio â dod â meddyginiaethau gyda chi achosi oedi, a allai olygu eich bod yn methu dogn o feddyginiaeth. Gallai hyn lesteirio adferiad ac ymestyn arhosiad yn yr ysbyty.”