Neidio i'r prif gynnwy

BIP Hywel Dda mewn trafodaethau i barhau â Meddygfa gangen yn Nhyddewi

30 Medi 2025

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Dŷ Shalom y bydd yr elusen yn cau ei busnes ddiwedd mis Hydref 2025, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) mewn trafodaethau gweithredol gyda'r elusen ynghylch dyfodol y feddygfa gangen i Meddygfa’r Penrhyn sy'n gweithredu o'r lleoliad ar Heol Non yn Nhyddewi.

Ers cau Meddygfa Tyddewi ym mis Hydref 2024, mae dwy ystafell yn Nhŷ Shalom wedi cael eu defnyddio gan y practis a reolir gan y Bwrdd Iechyd i ddarparu clinigau dan arweiniad nyrsys bob bore o'r wythnos. Bydd y feddygfa gangen yn parhau i weithredu fel arfer tan 31 Hydref a dylai cleifion fynychu apwyntiadau wedi'u trefnu fel arfer.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor yn BIP Hywel Dda: “Rydym wedi croesawu'r cyfle i weithio gyda Thŷ Shalom i gefnogi'r gwaith o ddarparu ein meddygfa gangen dan arweiniad nyrsys. Mae'n ddrwg gennym glywed y bydd Elusen Tŷ Shalom yn cau ac yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae'r Elusen wedi'i wneud i'r gymuned leol dros y blynyddoedd.

“Ein blaenoriaeth nawr yw sicrhau parhad gofal i gleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa’r Penrhyn. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Elusen, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid i archwilio darpariaeth y gwasanaethau pwysig hyn yn lleol yn y dyfodol.”

Nid oes angen i gleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa’r Penrhyn gymryd unrhyw gamau ar hyn o bryd. Bydd diweddariadau'n cael eu rhannu cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.