Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i wneud penderfyniad am ddyfodol Meddygfa Tyddewi

19 Gorffennaf 2024

Bydd dyfodol darpariaeth Gofal Sylfaenol i gleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Deulu Tyddewi yn Sir Benfro yn cael ei drafod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cyfarfod ddydd Iau, 25 Gorffennaf 2024.

Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu i gasglu barn cleifion a rhanddeiliaid lleol ar ddyfodol gwasanaethau meddygon teulu yn dilyn penderfyniad yr un meddyg teulu sy’n rhedeg y Feddygfa i ildio o’i Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, a ddaw i rym ar 31 Hydref 2024.

Roedd yr ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid yn cynnwys digwyddiad galw heibio yn Neuadd y Ddinas Tyddewi ym mis Mehefin. Daeth nifer dda i’r digwyddiad hwn a rhoddodd gyfle i bobl drafod eu pryderon yn bersonol gyda’r Bwrdd Iechyd a Llais, sefydliad llais y claf yng Nghymru.

Roedd cleifion ac aelodau o’r gymuned leol hefyd yn gallu rhannu eu barn drwy holiadur a oedd ar gael yn y digwyddiad ymgysylltu, a hefyd gan y Feddygfa, y Fferyllfa leol, ar-lein, neu drwy gysylltu â’r Bwrdd Iechyd dros y ffôn neu drwy e-bost.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i roi eu barn yn ôl i ni. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wrando ar ein poblogaethau lleol ac ymgysylltu â nhw a hoffem ddiolch i gleifion a rhanddeiliaid am eu rhan yn y broses hyd yn hyn.

“Hoffem roi sicrwydd i gleifion ein bod yn gweithio i ddod o hyd i ateb cynaliadwy o'r opsiynau cyfyngedig sydd ar gael fel y gellir darparu Gwasanaethau mor lleol â phosibl i gleifion o 1 Tachwedd.

Mae’r prif themâu a godwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu yn cynnwys pryderon am yr effaith ar gymuned Tyddewi pe bai’r Feddygfa’n cau, parhad gofal a hefyd teithio i feddygfa arall, yn enwedig o ran trafnidiaeth gyhoeddus.

“Rhoddwyd gwybodaeth i bobl yn y digwyddiad galw heibio am amlder trafnidiaeth gyhoeddus a chymorth trafnidiaeth arall sydd ar gael yn y gymuned,” meddai Ms Paterson.

“Roedd llawer o werthfawrogiad hefyd i Dr Stephen Riley a’i dîm ac am y gofal y maent wedi’i ddarparu dros y blynyddoedd. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth barhaus a roddir gan y Gymuned i’r tîm ym Meddygfa Tyddewi trwy gydol y cyfnod heriol hwn.”

Ddydd Iau, 25 Gorffennaf, bydd y Bwrdd yn ystyried yr adborth a dderbyniwyd.

Parhaodd Ms Paterson: “Rydym yn deall y bydd pobl leol eisiau gwybod beth fydd dyfodol eu gwasanaethau Meddyg Teulu, a byddwn yn ysgrifennu at bob claf i’w hysbysu o’r canlyniad unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud gan y Bwrdd.”

I ddarllen papurau’r Bwrdd a gwylio’r cyfarfod ar y diwrnod, ewch i: Agenda a Phaparau'r Bwrdd 25 Gorffennaf 2024 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) (agor mewn tab newydd)

Bydd diweddariad, yn dilyn penderfyniad ffurfiol y Bwrdd ddydd Iau, Gorffennaf 25 yn cael ei rannu gyda chleifion a rhanddeiliaid.