Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i drafod Meddygfa Neyland a Johnston ar 29 Medi

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

26 Medi 2022

Bydd dyfodol Meddygfa Meddygfa Neyland a Johnston yn cael ei drafod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ei gyfarfod nesaf ar ddydd Iau 29 Medi 2022.

Does dim penderfyniad wedi'i wneud, yn dilyn cais gan Practis i ymddiswyddo o'u cytundeb ac yn dilyn gwaith ymgysylltu gan y bwrdd iechyd i gasglu barn cleifion a rhanddeiliaid lleol ym mis Awst.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Gofal Hirdymor, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn deall y bydd pobl leol yn awyddus i wybod beth fydd dyfodol eu gwasanaethau meddygon teulu, a byddwn mewn cysylltiad uniongyrchol â nhw, mewn partneriaeth â'r feddygfa, unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ddydd Iau. Rydym wedi clywed pryderon a leisiwyd gan y gymuned, a'r practis fel darparwyr, ac mae angen i ni ystyried y dystiolaeth o'r gwaith sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf cyn gwneud unrhyw benderfyniad."

Mae'r practis yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i 6,000 o gleifion yn yr ardal. Yn hanesyddol mae hyn wedi bod o ddwy gangen, ond ers pandemig COVID ar ddechrau 2020 nid yw cangen Johnston wedi gallu cynnig apwyntiadau meddyg teulu arferol ar y safle, sydd bellach yn cael eu darparu o Neyland.

Mae ymddiswyddiad y contract yn dilyn ymddeoliad un o’r partneriaid meddyg teulu a sawl ymgais aflwyddiannus gan y Practis i recriwtio rhagor o feddygon teulu i weithio yn y Practis.

Ers hynny, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gyfrifol am gomisiynu (trefnu) gwasanaethau meddygol cyffredinol, wedi cynnal ymarfer ymgysylltu am bedair wythnos gyda chleifion, a'r gymuned leol, yn cynnwys meddygfeydd eraill a fferyllwyr cymunedol. Fe wnaeth dros 20% o gleifion y feddygfa ymateb i holiadur oedd yn gofyn am yr  hyn mae nhw'n ei werthfawrogi am feddygfa a sut gall unrhyw newidiadau i wasanaethau effeithio arnyn nhw.

Ddydd Iau, bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried y safbwyntiau hyn, gan gynnwys sut y gall cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda Meddygfa Neyland a Johnston barhau i dderbyn gwasanaethau diogel ac effeithiol.  Bydd Aelodau’r Bwrdd yn ystyried adroddiad, sy'n cynnwys cynnig i Neyland aros ar agor fel Meddygfa a Reolir gan y Bwrdd Iechyd, ac i rai cleifion gael gofal mewn practis arall cyfagos, megis yn Hwlffordd neu Aberdaugleddau.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wrando ar boblogaethau lleol ac i ymgysylltu ac mae’n diolch i gleifion a rhanddeiliaid am eu rhan yn y broses hyd yma.

Mae papur y Bwrdd ar gael yma, neu i gael mynediad i ddolen i bapurau a gwylio'r cyfarfod ar y diwrnod, ewch i: https://hduhb.nhs.wales a chwilio 'cyfarfod bwrdd Medi 2022'.

Bydd datganiad pellach yn dilyn penderfyniad ffurfiol y Bwrdd ddydd Iau.