Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i ail-gychwyn gwasanaeth atgoffa trwy neges testun

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) wedi ailgyflwyno'r gwasanaeth atgoffa trwy neges testun i gefnogi cleifion a'u helpu i osgoi colli apwyntiadau.

Ataliwyd y gwasanaeth ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae’r bwrdd iechyd wedi ail-ddechrau'r gwasanaeth yn raddol, gan ddechrau gyda gofal wedi'i drefnu.

Cyn y pandemig, profodd y gwasanaeth neges testun i fod yn adnodd effeithiol a phoblogaidd i wella profiad y claf, lleihau amseroedd aros, gwella cyfathrebu â chleifion, yn ogystal ag arbed arian.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau BIP Hywel Dda: “Mae'r bwrdd iechyd yn deall yn llawn yr anawsterau y mae pobl wedi'u hwynebu wrth gyrchu gwasanaethau oherwydd y pandemig COVID-19 byd-eang. Rydym yn gweithio'n galed iawn ar bob lefel yn y bwrdd iechyd i ddychwelyd i normalrwydd. Er ein bod yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i gyrraedd yno, yn enwedig wrth i ni barhau i weithio o fewn canllawiau tynn COVID-19, gofynnwn am amynedd a chefnogaeth y cyhoedd.

“Un o’r blaenoriaethau allweddol i’r bwrdd iechyd wrth symud ymlaen yw lleihau amseroedd aros. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae'n bwysig iawn bod cleifion yn mynychu eu hapwyntiadau neu'n ein hysbysu os na allant wneud hynny fel y gellir ei aildrefnu, a defnyddio'r slot apwyntiad gwreiddiol ar gyfer rhywun arall. Cyn y pandemig, cafodd y gwasanaeth neges testun effaith amlwg ar leihau nifer yr apwyntiadau a gollwyd, ac wrth inni geisio cynyddu capasiti eto, rydym yn hyderus mai nawr yw'r amser iawn i ddechrau ailgyflwyno'r gwasanaeth.

“Mae risg i gleifion sy’n colli apwyntiadau gael eu rhyddhau, felly mae’n gwbl hanfodol bod pobl yn mynychu pob apwyntiad. Os na all pobl ddod i'w hapwyntiadau, rhaid iddynt gysylltu â'u darparwr gwasanaeth cyn gynted â phosibl er mwyn ail-drefnu.

“Er bod y gwasanaeth wedi profi i fod yn boblogaidd gyda chleifion, gall pobl optio allan os ydyn nhw'n dewis. Yn ogystal, ni fydd y gwasanaeth yn disodli llythyrau apwyntiad papur, a fydd yn parhau i gael eu postio i gleifion.”