Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn nodi Dydd y Cadoediad

11 Tachwedd 2022

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymrwymiad hirsefydlog i fod yn sefydliad sy’n gyfeillgar i’r lluoedd arfog ar ôl llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog i ddechrau yn 2013 ac ennill gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn ym mis Gorffennaf 2021.

I gydnabod Diwrnod y Cadoediad eleni, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dadorchuddio meinciau coffa’r Lluoedd Arfog ar draws ysbytai Glangwili, Bronglais a Tywysog Philip, gyda seremoni Ysbyty Llwynhelyg yn cael ei haildrefnu oherwydd tywydd garw.

Dywedodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant: “Mae'n wych gweld y meinciau hyn yn cael eu dadorchuddio ar draws rhai o'n hysbytai.

“Rydym yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydym wedi’i chael gan gydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd gan gynnwys y tîm Arlwyo ar gyfer y lluniaeth a’r Gwasanaeth Ystadau, y Gwasanaeth Seicolegol a Llesiant Staff a thimau’r Gaplaniaeth. Gyda'u cymorth nhw rydym wedi dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer y meinciau ar bob un o'r pedwar safle ysbyty acíwt. Bydd y meinciau yn hybu iechyd gwyrdd ac yn darparu lleoliad awyr agored y gall staff a chleifion ei ddefnyddio i gael awyr iach ac ailgysylltu â natur. Byddant yn atgof teimladwy o’r rhai sydd wedi gwasanaethu a’r rhai sy’n parhau i wasanaethu yn y lluoedd arfog.”

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn diolch i’r gwir arwyr gan eu bod yn rhywun sydd wedi rhoi eu bywydau i rywbeth mwy na nhw eu hunain. Yn yr wythnos arwyddocaol hon, mae’n wir am y rhai sydd wedi ac yn parhau i wasanaethu gwasanaeth Ei Fawrhydi ac mae hyn yn cael ei ailadrodd yn yr ymrwymiad i weithlu’r GIG.”

Mae’r meinciau wedi cael eu hariannu gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y Bwrdd Iechyd. Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth yr elusen: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu ariannu’r meinciau hyn sy’n cynrychioli pa mor werthfawr yw cymuned y Lluoedd Arfog gan y bwrdd iechyd.

“Rydym yn gobeithio y byddant yn darparu ffocws ar gyfer myfyrio a choffáu yn y dyfodol i bawb sy’n eu defnyddio.”

Gall unrhyw un sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, dderbyn rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys mynediad at GIG Cymru i Gyn-filwyr, gwasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy'n ymwneud yn benodol â'u gwasanaeth milwrol, ymweld â: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/armed-forces-covenant/ (agor yn dolen newydd).

Mae Rhwydwaith Staff y Lluoedd Arfog hefyd yn agored i unrhyw aelod o gymuned y lluoedd arfog sy’n gweithio yn Hywel Dda ac os hoffai unrhyw staff gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith, gallant gysylltu â StrategicPartnerships.HDD@wales.nhs.uk.