21 Tachwedd 2025
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn ystyried ymestyn newid dros dro i’r llwybr atgyfeirio iechyd meddwl cymunedol i oedolion yng Ngheredigion yn ei gyfarfod Bwrdd cyhoeddus nesaf ar 27 Tachwedd 2025.
Gofynnir i'r Bwrdd gefnogi parhau â'r trefniant dros dro yng Ngheredigion. Yn ystod y cyfnod hwn, hoffai’r bwrdd iechyd hefyd asesu’r effaith bosibl ar ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid ar draws y tair sir, pe bai’r llwybr atgyfeirio newydd yn cael ei ymestyn yn barhaol i gynnwys Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro hefyd.
Ers mis Mawrth 2025, mae pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl nad yw'n frys yng Ngheredigion wedi cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu i wasanaeth opsiwn 2 GIG 111 Cymru yn lle'r tîm iechyd meddwl cymunedol.
Nod y newid hwn oedd lleihau amseroedd aros cleifion a lleihau'r galw ar y tîm cymunedol, sydd wedi wynebu pwysau parhaus o ran staffio a recriwtio.
Mae meddygon teulu yn parhau i atgyfeirio cleifion sydd â’r angen mwyaf at y tîm cymunedol ac mae ganddynt fynediad at linell gymorth 111 broffesiynol os ydynt yn pryderu na fydd claf yn ffonio’r gwasanaeth fel y cynghorir, neu os na all y claf wneud hwn ei hun.
Ers ei gyflwyno yng Ngheredigion, mae’r llwybr wedi sicrhau rhai manteision cadarnhaol, gan gynnwys:
Llai o amserau aros i gleifion
Gwell ymatebolrwydd gwasanaethau
Gwell integreiddio rhwng gofal sylfaenol a thimau iechyd meddwl
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu BIP Hywel Dda: “Rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl yn hygyrch, yn amserol ac yn gynaliadwy. Er bod y newid dros dro wedi’i gyflwyno mewn ymateb i bwysau staffio, mae’r adborth hyd yma wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan.
“Mae pobl yn cael cyngor a chymorth arbenigol yn gyflymach, ac mae’r rhai ag anghenion iechyd meddwl cymhleth hefyd yn cael eu gweld yn gynt gan ein timau arbenigol.
“Am y rhesymau hyn, rydym yn ceisio cymeradwyaeth gan y Bwrdd i gynnal cyfnod pellach o ymgysylltu i glywed gan fwy o bobl ar draws ein cymunedau cyn gwneud unrhyw benderfyniadau hirdymor i ymestyn y llwybr hwn i gleifion ar draws ardal ein bwrdd iechyd.”
Os caiff ei gymeradwyo, bydd cyfnod ymgysylltu naw wythnos yn dechrau ddechrau mis Rhagfyr, gan roi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, meddygon teulu a rhanddeiliaid rannu eu barn.
I gael rhagor o wybodaeth, mae papur y Bwrdd ar gael i’w ddarllen yma https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2025/agenda-a-phaparaur-bwrdd-27-tachwedd-2025/ (agor mewn dolen newydd) a bydd cyfarfod y Bwrdd yn cael ei ddarlledu’n fyw o 9.30am dydd Iau 27 Tachwedd ar www.youtube.com/hywelddahealthboard1 (agor mewn dolen newydd)