Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddi mewn gwneud i staff meddygol deimlo'n gartrefol

17 Medi 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi buddsoddi £600,000 i wella llety ar gyfer meddygon dan hyfforddiant yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd er mwyn creu lle cynnes a chroesawgar iddynt ddod adref iddo ar ôl shifft hir.

Nid meddygon dan hyfforddiant yn Llwynhelyg fydd yr unig rai a fydd yn elwa o’r gwaith adnewyddu, gyda chynlluniau i wella llety ar gyfer meddygon dan hyfforddiant ar draws holl safleoedd Hywel Dda dros y blynyddoedd i ddod.

Mae gwaith gwella bron wedi'i gwblhau yn Ysbyty Glangwili ac mae llety meddygon dan hyfforddiant - sy'n cynnwys 12 ystafell wely dros ddau lawr - eisoes wedi cael eu hailwampio. Gosodwyd lloriau newydd y llynedd yn ysbyty Caerfyrddin, ac eleni mae'r tu mewn wedi'i beintio a dodrefn newydd wedi'u gosod.

Mae gwaith adnewyddu paentio eisoes wedi dechrau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac mae cynlluniau i wneud gwelliannau pellach yn Ysbyty Tywysog Philip ac Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Mae’r cynlluniau gwella wedi dod i fodolaeth yn dilyn adolygiad ar raddfa fawr o lety meddygon dan hyfforddiant gan y bwrdd iechyd, a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Medi 2023.

Mesurwyd y llety presennol yn erbyn safonau llety a chyfleusterau Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain.

Dywedodd Helen Thomas, Pennaeth Addysg Feddygol a Safonau Proffesiynol yn Hywel Dda: “Amlygodd yr adolygiad rai meysydd yr oedd angen eu gwella. Roedd hyn yn arbennig o wir yn Llwynhelyg, lle mae meddygon dan hyfforddiant yn dibynnu’n helaeth ar lety ar y safle, oherwydd ei fod yn gyfleus ac yn agos at yr ysbyty a hefyd oherwydd y diffyg eiddo sydd ar gael i’w rhentu yn yr ardal.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein hymrwymiad i wella gofod byw ar gyfer meddygon dan hyfforddiant yn dangos ein bod yn gwerthfawrogi ein staff meddygol a fydd yn ein helpu i recriwtio a chadw meddygon. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein helpu i wella’r gwasanaethau a ddarparwn i’n cleifion.”

Bydd y gwaith gwella yn digwydd mewn dau gam.

Mae Cam 1, a ddechreuodd ym mis Ebrill eleni, wedi hen ddechrau a bydd yn parhau tan fis Mawrth 2025.

Mae wyth fflat ym mloc Penfro, sy'n cynnwys 32 ystafell wely, ynghyd â'r ystafell hamdden gymunedol a'r coridorau eisoes wedi'u hailbeintio a rhoddwyd lloriau a dodrefn newydd iddynt.

Erbyn Gwanwyn 2025, disgwylir y bydd wyth ystafell gawod yn cael eu creu o'r ystafelloedd ymolchi presennol gydag ystafelloedd cawod newydd i'w gosod ym mhob fflat, yn ogystal â'r ystafell gawod a thoiled cymunedol, sydd wedi'u lleoli ar y llawr gwaelod.

Bydd cegin newydd wedi'i ffitio'n llawn yn cael ei gosod yn yr ardal gymunedol, gyda phaentio, lloriau newydd a nwyddau gwyn newydd.

Aeth Helen ymlaen: “Bydd ystafelloedd gwely sy’n rhan o’r llety ar safleoedd eraill hefyd yn cael eu hadnewyddu a byddant yn cael eu peintio ar thema debyg i’r un yn llety Llwynhelyg er mwyn helpu i sicrhau bod safonau llety yn dechrau cyfateb ar bob safle.”

Bydd ail gam y gwaith adnewyddu yn Llwynhelyg yn dechrau ym mis Ebrill 2025 ac yn parhau tan fis Mawrth 2026. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys rhaglen adnewyddu debyg ar gyfer un arall o'r blociau o fflatiau.

Bydd gwaith pellach yn cael ei nodi yn ôl blaenoriaeth a bydd hyn yn cael ei gadarnhau dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro yn Hywel Dda:

“Rydym yn gweithio’n galed i wella mannau byw ar gyfer meddygon dan hyfforddiant, y mae llawer ohonynt wedi symud ymhell o’u cartrefi a’u teuluoedd eu hunain i weithio i ni.

“Mae’n bwysig i ni fod gan ein meddygon dan hyfforddiant le cyfforddus a chroesawgar i ddod adref iddo a all gynnig rhywfaint o heddwch a phreifatrwydd iddynt tra byddant yn gorffwys ac yn astudio.”

DIWEDD