Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau COVID-19 ar gael yn Llanybydder yr wythnos hon

Bydd fan brechu symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi’i lleoli yn Llanybydder rhwng dydd Iau 15 a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf.

Bydd y clinig brechu symudol wedi’i leoli ym Maes Parcio Teras Yr Orsaf, SA40 9XX) a bydd ar agor rhwng 11.00am a 7.00pm. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.

Bydd y fan frechu yn rhoi’r brechlyn i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n gofyn am ddos gyntaf neu ail ddos (Moderna a AstraZeneca Rhydychen). Gellir rhoi ail ddosau 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf.

Mae'r gwasanaeth tân yn darparu un o'i gerbydau a bydd aelodau'r tîm yn bresennol i roi cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol i'r cyhoedd, gan gynnwys am ddiogelwch yn y cartref.

Mae dros 500 o frechlynnau wedi'u rhoi hyd yma gan ddefnyddio'r fan brechu symudol mewn lleoliadau yn Cross Hands a Doc Penfro.

Gyda'r cynnydd mewn achosion ledled y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddod ymlaen am eu dos cyntaf a'r ail ddos cyn gynted â phosibl.

Os hoffech archebu'ch dos cyntaf, cysylltwch â'r bwrdd iechyd yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol i ofyn am apwyntiad: