Neidio i'r prif gynnwy

BIP Hywel Dda yn ymrwymo i leihau ôl troed carbon

29 Tachwedd 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi nodi ei ymrwymiad i leihau ôl troed carbon y sefydliad dros yr wyth mlynedd nesaf.

Mae cynllun y bwrdd iechyd mewn ymateb i Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru yn gosod targedau interim o leihau ôl troed carbon o 16% erbyn 2025, a gostyngiad o 34% erbyn 2030 ar gyfer sefydliadau’r GIG ledled Cymru.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gorff sector cyhoeddus mawr, ac mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i wneud yr hyn sydd ei angen i gyrraedd y targedau interim a gwreiddio datgarboneiddio yn ein gwaith, gweithrediadau a busnes i gefnogi uchelgais ehangach y sector gyhoeddus i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Caiff ein hôl troed carbon ei fesur ar 98,854 tunnell o CO2e, sy’n cyfateb i 9.87% o gyfanswm ôl troed GIG Cymru.

“Mae’r cynllun hwn yn gosod cyfeiriad strategol y bwrdd iechyd ar gyfer y degawd nesaf ac yn manylu ar gamau gweithredu datgarboneiddio y gellir eu cyflawni o fis Mawrth 2022 hyd at 2025, fel rhaglen gychwynnol.”

Mae cyflawni rhywbeth uchelgeisiol yn gofyn am weithredu cyflym a newid sylweddol ar draws meysydd rheoli carbon, adeiladau, trafnidiaeth, caffael, cynllunio ystadau a defnydd tir, ac ymagwedd y bwrdd iechyd at ofal iechyd gan gynnwys hyrwyddo cynaliadwyedd clinigol.

Mae llawer o'r cyfleoedd a nodwyd yn ymwneud ag adeiladau a seilwaith. Fodd bynnag, mae’r gostyngiadau mwyaf rhwng 2022 a 2025 yn deillio o brynu nwyddau a gwasanaethau gan mai dyma’r gyfran fwyaf (62%) o’r ôl troed carbon cyffredinol.

Mae Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio’r bwrdd iechyd ar gael i’w ddarllen yma https://hduhb.nhs.wales/about-us/your-health-board/board-meetings-2022/board-agenda-and-papers-29th-september-2022/english/item-410-decarbonisation-report/