26 Medi 2025
Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau 25 Medi 2025, gan fyfyrio ar heriau a chyflawniadau'r flwyddyn ddiwethaf a dathlu ymroddiad ei staff drwy wobrau Cymeradwyaeth Hywel.
Yn ystod y Cyfarfod, cymeradwyodd y Bwrdd ei Adroddiad Blynyddol 2024/25 yn ffurfiol, sy'n amlinellu perfformiad, sefyllfa ariannol a chynnydd y sefydliad yn erbyn blaenoriaethau strategol. Mae'r adroddiad ar gael i'w weld yma https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/targedau-perfformiad/ein-perfformiad-ffolder/adroddiad-blynyddol (agor mewn tab newydd)
Cafodd y mynychwyr gyfle hefyd i wylio'r fideo Adolygiad o'r Flwyddyn, sy'n dathlu gwaith ac ymroddiad dros 13,000 o staff, gwirfoddolwyr, myfyrwyr a phrentisiaid.
Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd BIP Hywel Dda: "Drwy gydol 2024 a 2025, fe wnaethom barhau i adolygu a nodi meysydd i'w gwella er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau diogel i'n cleifion a chyflawni ein dyletswydd ansawdd.
“Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i fyfyrio ar y cynnydd a wnaethom a'r heriau a wynebwyd gennym gyda'n gilydd fel bwrdd iechyd.
"Mae hefyd yn amser i gydnabod y bobl anhygoel sy'n gwneud ein gwasanaethau'n bosibl. Mae ein gwobrau Cymeradwyaeth Hywel yn atgof pwerus o'r tosturi, y sgil a'r ymrwymiad a ddangosir gan ein staff bob dydd.
“Rydym yn falch o'u cyflawniadau ac yn ddiolchgar am eu hymroddiad parhaus i'r cymunedau a wasanaethwn."
Dilynwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan wobrau staff Cymeradwyaeth Hywel, dathliad o'r unigolion a'r timau sy'n mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i gleifion, cydweithwyr a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Roedd gwobrau eleni yn cydnabod rhagoriaeth ar draws ystod o gategorïau, gan gynnwys gofal clinigol, arloesedd, arweinyddiaeth a gweithio mewn partneriaeth. Dewiswyd yr enillwyr o blith nifer fawr o enwebiadau a gyflwynwyd gan gydweithwyr a'r cyhoedd.
Dyma enillwyr Cymeradwyaeth Hywel 2025:
- Byw Ein Gwerthoedd: Gayle Evans, Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol, Ysbyty Tywysog Philip am ei ffordd tosturiol a chreadigol sydd wedi cyfoethogi bywydau cleifion, codi morâl y tîm, gan fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau yn gyson.
- Seren y dyfodol: Dr Hannah Jenkins, Prif Seicolegydd Clinigol, Ysbyty Tywysog Philip am ei hagwedd gadarnhaol heintus ac ymrwymiad i greu gwelliannau cynaliadwy wrth helpu cydweithwyr i dyfu a datblygu.
- Y Defnydd Gorau o'r Gymraeg: Sian Davies, Nyrs Gofrestredig, am ei hymroddiad angerddol dros yr iaith, am ysbrydoli cydweithwyr a chleifion, ac am greu amgylchedd dwyieithog sy'n grymuso pawb i gymryd rhan.
- Tyfu Gyda'n Gilydd: Tîm Datblygu Ymarfer Mamolaeth, am eu gwaith yn ymgorffori dysgu, arloesedd ac ymarfer myfyriol mewn gofal bob dydd, gan arwain at weithlu mamolaeth hyderus ac sy’n edrych i’r dyfodol.
- Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn: Clare Pound, Rheolwr Safonau Data, Gwasanaethau Digidol am drawsnewid sut rydym yn nodi ac yn cefnogi cleifion agored i niwed trwy wneud newidiadau i’r system – newidiadau syml ona rhai pwerus sy'n cael effaith barhaol.
- Cydweithiwr Tosturiol: Rebecca McDonald, Nyrs Glinigol Arbenigol Gofal Lliniarol Pediatrig, Gwasanaeth Nyrsio Cymunedol Plant am ei charedigrwydd a'i empathi eithriadol, gan greu amgylchedd diogel a chefnogol lle mae teuluoedd a chydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u clywed, ac am godi eu hwyliau pan fyddant angen hynny fwyaf.
- Llais y Claf: Tîm Nyrsio Cymunedol Ceredigion am eu tosturi a'u hymroddiad rhyfeddol, gan roi heddwch ac urddas i deuluoedd trwy wneud dymuniad olaf eu hanwylyd yn bosibl.
- Rhagoriaeth mewn Llesiant: Claire Williams, Cynghorydd Gweithlu, Tîm Datblygu Gweithlu a Sefydliadol am ei hymroddiad i lesiant staff, creu gweithgareddau ymarferol, a mentrau meddylgar sy'n gwneud bywyd gwaith bob dydd yn iachach ac yn fwy cysylltiedig.
- Arwr Tawel: Claire Dawes, Arweinydd Tîm Allgymorth Gofal Critigol, Ysbyty Llwynhelyg am ei phendantrwydd a'i harweinyddiaeth wrth adeiladu'r gwasanaeth allgymorth gofal critigol, gan rymuso staff â'r sgiliau a'r hyder i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel.
- Arloesedd a Rhagoriaeth: Mr Alan Treharne, Obstetrydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol, Ysbyty Bronglais am ei glinig un-stop arloesol ar gyfer iechyd menywod, sydd wedi trawsnewid mynediad at ofal trwy leihau arosiadau, gwella canlyniadau a gosod safon newydd ar gyfer gofal iechyd teg.
- Cyflawniad Oes: Sue Beach, Fferyllydd Datblygu Clinigol Arweiniol, Ysbyty Glangwili am ei degawdau o arweinyddiaeth a mentora rhagorol mewn fferylliaeth, llunio arfer diogel, arwain arloesedd ac ysbrydoli cenedlaethau o fferyllwyr i ffynnu.
Dywedodd Lisa Gostling, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Datblygu Gweithlu a Sefydliadol yn BIP Hywel Dda: “Mae Cymeradwyaeth Hywel yn gyfle i amlygu’r gwaith anhygoel sy'n digwydd bob dydd ar draws ein bwrdd iechyd. Mae'n fraint dathlu tosturi, arloesedd a gwydnwch ein staff, a diolch iddynt am bopeth maen nhw'n ei wneud.
“Diolch i'n holl gydweithwyr am enwebu, a llongyfarchiadau i enwebeion eleni, y cydweithwyr a gafodd ganmoliaeth uchel yn ogystal a'n henillwyr.”