Neidio i'r prif gynnwy

BIP Hywel Dda yn Cwblhau Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Wasanaethau Pediatreg

Graphic showing a group of young adults

11 Medi 2023

Mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus sy’n mynd i’r afael â dyfodol gwasanaethau pediatreg brys ac argyfwng yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili wedi dod i ben yn swyddogol. Wedi'i drefnu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, dechreuodd yr ymgynghoriad ar 26 Mai 2023 a daeth i ben ar 24 Awst 2023. Mae'r ymgynghoriad yn rhan annatod o strategaeth ehangach y bwrdd iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Yn dilyn nifer o newidiadau dros dro a wnaed i wasanaethau pediatreg ers 2016, mae angen ateb tymor hwy ar y bwrdd iechyd a fydd ar waith hyd nes y bydd yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn cael ei ddatblygu.

Gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda’i dimau clinigol a phediatrig arbenigol, staff, cleifion, rhieni a’r cyhoedd ehangach a rhanddeiliaid eraill i nodi opsiynau a’u gwerthuso. Yna rhannwyd rhestr fer o dri opsiwn ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol i ffurfio'r ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, boed yn mynychu un o’n digwyddiadau personol neu ar-lein. Edrychwn ymlaen at y camau nesaf yn y broses ymgynghori wrth i ni ystyried yr holl adborth a dderbyniwyd, er mwyn ein galluogi i wneud y penderfyniad gorau ar yr opsiynau ar gyfer y dyfodol ar gyfer gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn Ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.”

Bydd y bwrdd iechyd nawr yn dechrau ystyried yr opsiynau a’r ymatebion i’r ymgynghoriad mewn proses o’r enw ‘ystyriaeth gydwybodol’. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw opsiwn a ffefrir o ran sut y bydd gwasanaethau pediatreg brys ac argyfwng yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn cael eu darparu.

Ar gyfer pob un o’r tri opsiwn, mae’n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal brys plant yn cael ei gadw yn adran achosion brys Ysbyty Glangwili, a bydd mân anafiadau i blant yn parhau i gael eu trin yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Mae Opinion Research Services (ORS), sefydliad ymchwil cymdeithasol, wedi casglu a bydd yn dadansoddi’r ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad gan staff ac aelodau’r cyhoedd. Mae'r adborth hwn wedi'i gasglu trwy holiaduron ar-lein a phapur, a digwyddiadau ymgynghori personol a rhithwir.

Fel sefydliad annibynnol a diduedd, bydd ORS yn cyflwyno ei adroddiad i'r bwrdd iechyd ganol mis Hydref 2023. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu cyflwyno proses ymgynghori gwbl dryloyw ac mae'n cael ei arwain gan arbenigwyr annibynnol y Sefydliad Ymgynghori. Bydd y Bwrdd wedyn yn cychwyn yn ffurfiol ar eu proses ystyriaeth gydwybodol.

Bydd yr adolygiad trylwyr hwn yn sicrhau bod aelodau'r Bwrdd, sy'n cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Aelodau Annibynnol, yn gallu gwerthuso'r holl ddeunydd ymgynghori yn drylwyr gan ddilyn model sy'n ceisio bod yn ddiduedd a chydnabod pryderon cyhoeddus perthnasol.

Yna bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad a barn rhanddeiliaid yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd ddiwedd mis Tachwedd 2023 am benderfyniad ar yr opsiynau ar gyfer y dyfodol ar gyfer y gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn Ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: Gwasanaethau Plant yn y dyfodol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)