Neidio i'r prif gynnwy

BIP Hywel Dda yn annog pobl i fwcio ail apwyntiad brechlyn Pfizer

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i unrhyw un a gafodd y brechlyn Pfizer ac nad yw wedi derbyn ail apwyntiad brechlyn eto, i gysylltu.

Nod y bwrdd iechyd yw cwblhau pob ail ddos brechlyn Pfizer erbyn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 12 Ebrill.

I wirio pa frechlyn a gawsoch, edrychwch ar y cerdyn a roddwyd i chi yn eich apwyntiad brechlyn cyntaf. Bydd yn dweud a wnaethoch chi gael  brechlyn Pfizer BioNtech neu’r Oxford AstraZeneca.

Os cawsoch ddos cyntaf o'r brechlyn Oxford AstraZeneca, gofynnwn yn garedig i chi beidio cysylltu â'ch meddygfa na’r bwrdd iechyd ar yr adeg hon i ofyn am ail apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi am ail ddos - rydym yn galw'r rhai a gafodd ddos cyntaf Pfizer ar yr adeg hon.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Mae ail ddosau yn hanfodol ar gyfer amddiffyniad tymor hwy, felly mae'n bwysig bod pawb yn dod ymlaen ar gyfer eu cwrs llawn pan gânt eu galw.

“Cysylltwch â'r bwrdd iechyd ar yr adeg hon dim ond os ydych wedi cael brechlyn cyntaf Pfizer ond heb dderbyn ail apwyntiad brechlyn.

“Bydd staff cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol, pobl rhwng 75 a 79 oed a phobl a oedd yn cysgodi, wedi derbyn y brechlyn Pfizer BioNtech yn un o'n canolfannau brechu torfol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro.”

I drefnu'ch ail ddos brechlyn Pfizer, cysylltwch â'r bwrdd iechyd cyn gynted â phosib ar 0300 303 8322. Sylwch fod llinellau ffôn yn brysur iawn ar brydiau ac efallai y bydd yna aros i'r alwad gael ei hateb. Gallwch hefyd gysylltu â ni trwy e-bostio'ch enw a'ch rhif ffôn cyswllt i COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Cysylltir â thrigolion cartrefi gofal, pobl dros 80 oed a phob grŵp blaenoriaeth arall sydd wedi cael brechlyn Oxford AstraZeneca yn eu meddygfa neu ganolfan brechu torfol, rhwng 11 i 12 wythnos yn dilyn eu brechlyn cyntaf gydag amser apwyntiad ar gyfer eu hail ddos o’r Oxford AstraZeneca.

Gallwn eich sicrhau fod hwn yn gyfnod diogel a phriodol rhwng dau ddos y brechlyn Oxford AstraZeneca ac mae adroddiadau cynnar gan Brifysgol Rhydychen yn cefnogi cyfnod o 12 wythnos rhwng dosau er mwyn sicrhau'r effeithiolrwydd mwyaf o'r brechlyn.

Mae'r bwrdd iechyd wedi trefnu cymorth cludiant i unrhyw un a allai ei chael hi'n anodd mynychu eu hapwyntiad brechu. Os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o deithio, soniwch am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni i drefnu eich apwyntiad a byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo.