Neidio i'r prif gynnwy

Baby Friendly Initiative yn canmol gwasanaeth ymweld iechyd lleol

23 Gorffennaf 2024

Mae'r Gwasanaeth Ymweld Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cynnal ei achrediad fel cyfleuster ‘Cyfeillgar i Fabanod’, yn dilyn asesiad gan Fenter Cyfeillgar i Fabanod Unicef UK.

Mae Menter Unicef UK Baby Friendly yn  cefnogi bwydo ar y fron a pherthynas rhieni babanod trwy weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i wella safonau gofal.

Cafodd y tîm, sy'n darparu'r gwasanaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, eu canmol am eu gwaith, gan gyflawni marc pasio o 100% yn llawer o safonau cenedlaethol y Fenter ar gyfer bwydo babanod. Hywel Dda yw'r bwrdd iechyd cyntaf i gyflawni hyn mewn sawl blwyddyn.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion "Hoffwn longyfarch y tîm ar y cyflawniad gwych hwn.

"Rydym yn falch o gael tîm sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac mae'r gwaith y maent wedi'i wneud i gyflawni'r achrediad mawreddog hwn wedi bod yn ychwanegol at eu cyfrifoldebau o ddydd i ddydd."

Canmolwyd y tîm hefyd am eu rhaglen hyfforddi a'u proses archwilio ardderchog.

Mae'r broses asesu yn cael ei goruchwylio gan banel o arbenigwyr diduedd ym maes bwydo ar y fron a gofal newyddenedigol, gan gynnwys cynrychiolwyr o bediatreg, bydwreigiaeth, ymweliadau iechyd a sefydliadau gwirfoddol.

Cafodd defnyddwyr gwasanaeth hefyd eu cyfweld gan banel y Fenter Cyfeillgar i Fabanod, gydag adborth yn cynnwys eu bod 100% yn fodlon â'r gofal a'r gefnogaeth dosturiol a gawsant gan y gwasanaeth.

Dywedodd un defnyddiwr gwasanaeth am aelod o'r tîm: "Mae hi'n berson sydd wir yn poeni am ei swydd a'r bobl mae hi'n gweithio gyda nhw... Sgiliau cyfathrebu da iawn. Mae fy mabi yn chwe wythnos oed ac rydw i wedi cael pedwar ymweliad cartref hyd yn hyn ac mae hi'n dod eto ddydd Llun."

Mae'r Fenter Cyfeillgar i Fabanod, a sefydlwyd gan Unicef a Sefydliad Iechyd y Byd, yn rhaglen fyd-eang sy'n darparu ffyrdd ymarferol ac effeithiol i wasanaethau iechyd wella'r gofal a ddarperir i bob mam a phlentyn.

Yn y DU, mae'r fenter yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i amddiffyn, hyrwyddo a chefnogi bwydo ar y fron, ac i gryfhau perthnasoedd rhwng mam-baban a theulu.