Neidio i'r prif gynnwy

Asesiadau Digidol wedi'u hymestyn i wasanaeth Covid Hir

21 Chwefror 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymestyn ei wasanaethau Asesiadau Digidol ar-lein ar gyfer cleifion addas sy’n defnyddio ei wasanaethau Covid Hir ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Asesiadau Digidol yn helpu cleifion i hysbysu eu tîm clinigol am eu hiechyd rhwng apwyntiadau. Cânt eu defnyddio’n llwyddiannus ar hyn o bryd ar draws amrywiaeth o wasanaethau bwrdd iechyd, gan gynnwys gwasanaethau Offthalmoleg, Gweithrediad y Galon, a Lymffoedema.

Er bod y mwyafrif o bobl â symptomau ôl-COVID-19 yn dangos gwelliant rhwng 4 a 12 wythnos, mae rhai yn parhau i gael eu heffeithio am fwy na 12 wythnos ac yn dioddef o effeithiau hirdymor, y cyfeirir atynt yn aml fel Covid Hir. Mae angen asesiad ac adsefydlu pellach ar yr unigolion hyn ar gyfer eu symptomau, a chefnogaeth ar gyfer y ffordd y mae'r symptomau hyn yn effeithio ar ansawdd bywyd.

Gyda chefnogaeth gan weithwyr adsefydlu aml-broffesiynol, gan gynnwys Ymarferydd Cynorthwyol Therapi, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Deietegwyr, Seicolegwyr ac Uwch Ymarferwyr Nyrsio, mae'r gwasanaeth yn darparu asesiad unigol cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda'r nod o gefnogi a galluogi cleifion i reoli eu hiechyd a'u hiechyd lles.

Mae dolen nhs.my yn y neges destun a’r e-bost yn ddibynadwy ac yn cael ei darparu gan DrDoctor, gwasanaeth sydd wedi’i achredu i’r safonau uchaf a osodwyd gan y GIG ar gyfer diogelu gwybodaeth gofal iechyd dinasyddion y DU.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio’n ddiogel yng nghofnod y claf.

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “I rai pobl, gall coronafeirws achosi symptomau sy’n para wythnosau neu fisoedd lawer ar ôl iddynt wella o’r haint. Gall y syndrom ôl-COVID-19 hwn, neu “COVID Hir”, effeithio’n sylweddol ar iechyd a llesiant person, a dyna pam rydyn ni eisiau cefnogi pobl cymaint â phosib.

“Mae’n bwysig pwysleisio nad yw Asesiadau Digidol yn disodli gofal clinigol. Bydd y wybodaeth a ddarperir trwy'r platfform diogel hwn yn darparu monitro rheolaidd ar symptomau gartref i'n helpu i ddeall eich iechyd yn well a gwneud y defnydd gorau o'r amser a dreulir gyda'ch tîm clinigol."

Mae'n bwysig bod gennym eich rhif ffôn symudol cywir, enw llawn, cod post, dyddiad geni ac e-bost fel y gallwch fewngofnodi i gwblhau eich ffurflen ar-lein. Os oes angen diweddaru eich manylion cyswllt ffoniwch ni ar 0300 303 9642.

Mae'n bwysig bod gennym ni eich rhif ffôn symudol cywir a/neu gyfeiriad e-bost er mwyn i chi dderbyn yr hysbysiadau digidol. Mae angen eich cyfenw, dyddiad geni a chod post er mwyn i chi allu mewngofnodi i gwblhau eich ffurflen ar-lein. Os oes angen diweddaru eich manylion cyswllt ffoniwch ni ar 0300 303 9642.