Neidio i'r prif gynnwy

Apêl i'r rhai sy'n ymweld â phobl yn yr ysbyty i gadw draw os ydynt yn sâl

18 Tachwedd 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i unrhyw un sy'n profi symptomau anadlol neu stumog ar hyn o bryd (e.e. ffliw, gastroenteritis), neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â phobl eraill sydd â'r symptomau hyn, i osgoi ymweld â ffrindiau a pherthnasau yn yr ysbyty.

 Mae hyn er mwyn cyfyngu ar ledaeniad yr haint ac i gadw ein cleifion mor ddiogel ac iach â phosibl.

 Gofynnir i bobl beidio ag ymweld ag unrhyw safleoedd ysbyty os ydynt yn teimlo'n sâl. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy'n profi symptomau tebyg i ffliw neu haint anadlol neu os oes ganddynt neu os ydynt wedi cael dolur rhydd a/neu chwydu yn ystod y 48 awr ddiwethaf.

 Mae'r un peth yn berthnasol os yw person wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un â'r symptomau hyn yn ystod y 48 awr ddiwethaf.

 Dywedodd Rebecca Richards, Pennaeth Atal Heintiau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

 “Rydym bob amser yn hoffi croesawu ymwelwyr i’n hysbytai a gall ymweliad fod o fudd mawr i’r rhai sy’n cael gofal yn un o’n safleoedd.

 “Fodd bynnag, gall afiechydon fel y ffliw, dolur rhydd a chwydu basio o un person i’r llall yn hawdd iawn ac fel arfer ar yr adeg hon o’r flwyddyn rydym yn canfod bod y firysau hyn yn cylchredeg yn amlach yn y gymuned.

 “Gallant fod yn ddifrifol i gleifion sâl ac agored i niwed, felly byddwn yn annog pobl i beidio ag ymweld â chleifion yn yr ysbyty ar hyn o bryd os ydych chi’n profi’r afiechydon hyn neu wedi profi’r afiechydon hyn yn ddiweddar. Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn gwbl rhydd o symptomau cyn ymweld â chleifion.”

 Os oes gennych apwyntiad ysbyty ac rydych wedi profi symptomau salwch heintus fel dolur rhydd, chwydu, twymyn neu symptomau ffliw yn ystod y 48 awr ddiwethaf, cysylltwch â ni (trwy’r manylion cyswllt ar eich llythyr apwyntiad) i weld a yw eich apwyntiad yn un brys, neu a ellir ei aildrefnu nes eich bod yn teimlo’n well.

Am gyngor pellach ar atal lledaeniad haint ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-i-gleifion/cyngor-ar-reoli-heintiau/

Diwedd