Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o ddathlu cydnabyddiaeth Anwen Butten, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a'r Gwddf, sydd wedi derbyn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2025.
Mae Anwen yn derbyn yr anrhydedd fawreddog hon yn gydnabyddiaeth o’i chyfraniad eithriadol i chwaraeon ac i nyrsio a gofal canser. Yn aelod o’r tîm yn Ysbyty Glangwili, mae Anwen wedi bod yn gefnogaeth gadarn i gleifion a theuluoedd ledled gorllewin Cymru, gan gyfuno rhagoriaeth glinigol â thosturi yn ystod ei gyrfa nodedig o 30 mlynedd.
Yn ogystal â'i harweinyddiaeth glinigol, mae Anwen hefyd yn adnabyddus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ei bod wedi cynrychioli Cymru mewn bowlio ers 1988. Yn 2022, cafodd ei henwi'n gapten Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.
"Mae ymroddiad Anwen i'w chleifion a'i galwedigaeth yn wirioneddol ysbrydoledig," meddai Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion. "Mae hi'n arwain gyda gostyngeiddrwydd, tosturi a chryfder, ac mae'r anrhydedd hon yn deyrnged addas i'w degawdau o wasanaeth a'r bywydau y mae hi wedi'u cyffwrdd."
Wrth fyfyrio ar yr anrhydedd, dywedodd Anwen Butten: "Rwy'n hynod falch o dderbyn yr anrhydedd hon. Rwy’n angerddol dros fy ngwaith nyrsio - rydw i wedi cael y fraint o ofalu am gymaint o bobl anhygoel yn ystod fy ngyrfa. Mae'r gydnabyddiaeth hon nid yn unig i mi, ond i'r tîm cyfan o Ganser y Pen a'r Gwddf a theulu ehangach Hywel Dda sy'n fy nghefnogi a'm hysbrydoli bob dydd."
Mae'r Bwrdd Iechyd yn estyn ein llongyfarchiadau gwresog i Anwen a'i theulu ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.