Neidio i'r prif gynnwy

Anogir y rhai cymwys i ddod ymlaen wrth i ddyddiad cau rhaglen atgyfnerthu'r gwanwyn agosáu

14 Mehefin 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn atgoffa unrhyw un sy’n gymwys ac sydd heb ddod ymlaen ar gyfer eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn i dderbyn eu cynnig erbyn y dyddiad cau, sef dydd Iau, 30 Mehefin 2022.

Mae dyddiad cau o 30 Mehefin wedi’i gyflwyno i sicrhau y bydd gan bawb sy’n gymwys ar gyfer dos atgyfnerthu’r gwanwyn ddigon o egwyl rhwng hyn a sesiwn atgyfnerthu hydref 2022, os ydynt hefyd yn gymwys.

Pobl 75 oed a hŷn, y rhai a fydd yn dathlu eu pen-blwydd yn 75 oed cyn neu ar 30 Mehefin, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal a’r rhai 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan (fel y’i diffinnir fel “gwrthimiwnedd” yn nhabl 3 a 4 o bennod 14a  Y Llyfr Gwyrdd (agor mewn tab newydd))  yn gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn y gellir ei roi tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl derbyn y dos olaf o'r brechlyn.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i ymdrechion parhaus ein canolfannau brechu torfol, imiwnyddion cymunedol a phractisau meddygon teulu, mae bron i 40,000 o bobl wedi cael eu pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn.

“Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael mynediad at eu brechlyn ac felly bydd sesiynau galw heibio yn parhau yn ein canolfannau brechu torfol yn Aberystwyth, Cwm-Cou, Dinbych-y-pysgod, Hwlffordd, Caerfyrddin a Llanelli i unrhyw un 12 oed a hŷn.

“Gellir trefnu apwyntiadau a chymorth trafnidiaeth* ar gyfer y rhai nad ydynt yn wirioneddol yn gallu cael mynediad i ganolfan frechu torfol mewn unrhyw fodd arall trwy ffonio 0300 303 8322 neu anfon e-bost at COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk.”

Os yw rhywun sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn wedi cael haint Covid yn ddiweddar, bydd angen iddynt aros 28 diwrnod o'r dyddiad y cawsant brawf positif cyn y gellir eu brechu. Byddant yn dal i allu cael eu brechu ar ôl 30 Mehefin fel rhan o’r ymgyrch hon os bydd yn rhaid iddynt ohirio eu hapwyntiad.

Nid yw ychwaith yn rhy hwyr i unrhyw un sydd angen dos sylfaenol neu ddos atgyfnerthu gael ei frechu. Mae sesiynau galw heibio ar gyfer pawb 12 oed a hŷn. Bydd plant 5 i 11 oed yn cael eu brechu mewn clinigau penodol ac felly mae'n rhaid iddynt drefnu apwyntiad.

Ar gyfer amseroedd galw heibio canolfan frechu torfol (ar gyfer pobl 12 oed a hŷn), ewch i hduhb.nhs.wales/covid19-vaccination neu ffoniwch 0300 303 8322. I drefnu amser apwyntiad, ffoniwch 0300 303 8322 neu e-bostiwch COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk