Cyn Ddiwrnod Diabetes y Byd (Dydd Sul 14 Tachwedd), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn atgoffa pobl â diabetes am wirio eu traed, a mynediad at glinigau arbenigol.
Mae adran podiatreg y bwrdd iechyd yn annog cleifion i gael gwiriadau diabetes rheolaidd, yn enwedig archwiliadau traed, i ddarganfod unrhyw faterion sydd angen gofal ar unwaith.
Anogir cleifion hefyd i archwilio eu traed yn ddyddiol gartref, am unrhyw arwyddion perygl gan gynnwys:
Dywedodd Laura Jones, Dietegydd Arbenigol Diabetes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Y thema ar gyfer Diwrnod Diabetes y Byd eleni yw mynediad at ofal diabetes. Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi golygu nad yw rhai pobl a diabetes wedi gallu cael eu gwiriadau traed diabetes rheolaidd. Dyna pam rydyn ni eisiau annog pobl i berfformio hunan-wiriad o’u traed gartref, ac os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon, dylen nhw gysylltu â’r tîm podiatreg ar unwaith.”
Mae Clinigau Mynediad Agored yn gweithredu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn y lleoliadau canlynol:
Mae’r clinigau hyn ar gyfer patholegau traed brys yn unig, gan gynnwys haint, briwiau, niwroarthropathi madredd neu charcot (troed coch, poeth, chwyddedig).
Ni fydd angen apwyntiadau gan y bydd cleifion sy’n mynychu clinigau mynediad agored yn cael eu gweld yn nhrefn eu cyrraedd.
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â’r swyddfa podiatreg yn eich sir:
I gael cyngor pellach ar sut i edrych ar ôl eich traed, edrychwch ar y canllawiau fideo hyn: