Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog cleifion i barhau i fynychu sganiau a phrofion calon pwysig yng nghanol pryderon bod llawer yn peryglu eu hiechyd wrth iddynt aros i gwblhau eu brechiadau Covid-19.
Daw'r alwad wrth i ffigyrau ddangos bod nifer cynyddol o gleifion yn canslo neu'n methu â dod i'w hapwyntiadau ers i frechlynnau newydd yn erbyn y clefyd gael eu cyflwyno yng ngorllewin Cymru. Codwyd pryderon bod cyflwyno’r brechlynnau wedi arwain at rai cleifion yn penderfynu osgoi dod i gael sganiau a phrofion nes eu bod wedi derbyn dau ddos ou brechlyn Covid.
Yn ogystal â'r risg glinigol i gleifion o ohirio’r profion hyn, mae'r bwrdd iechyd hefyd yn poeni am yr effaith ar gapasiti a galw yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan y bydd angen cynnal profion sy'n cael eu gohirio nawr yn ddiweddarach - sy'n golygu y bydd amseroedd aros yn ymestyn.
Dywedodd Clive Weston, Arweinydd Clinigol Cardioleg yn Hywel Dda: “Rydym yn gwybod bod llawer o’n cleifion cardiaidd, oherwydd eu hoedran a’u cyflwr, yn bobl sydd wedi bod yn cysgodi ac felly efallai eu bod yn poeni am ymweld â’r ysbyty i gael profion. Mae llawer ohonynt wedi bod yn mynychu flynyddol i gael sgan eco ac efallai y byddan nhw'n tybio oherwydd bod y canlyniadau wedi bod yn galonogol yn y gorffennol y byddan nhw'n iawn nawr. Fodd bynnag, holl bwynt y profion hyn yw canfod newidiadau yng nghyflyrau'r galon a all ddigwydd cyn i'r symptomau waethygu."
“Y neges allweddol yr ydym am ei chyfleu yw bod y profion hyn, er eu bod yn arferol, yn chwarae rhan bwysig wrth reoli llawer o anhwylderau'r galon. Dylai hyd yn oed y rhai sy'n teimlo'n dda fynychu eu hapwyntiadau er mwyn osgoi'r risg o niwed a allai fod yn fwy i'w hiechyd. Mae ein hysbytai yn ddiogel ichi eu mynychu, gydag ardaloedd aros ac asesu dynodedig a staff yn gwisgo PPE, a byddem yn eich annog yn gryf i barhau i gyrchu'r gofal sydd ei angen arnoch."
Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion: “Fel bwrdd iechyd rydym yn dod yn fwyfwy pryderus am yr effaith tymor hir ar gleifion sy'n methu â mynychu'r apwyntiadau hyn. Byddwn yn annog unrhyw un y gofynnir iddo ddod i'r ysbyty am gyflyrau cardiaidd a gofal arall i wneud hynny a pheidio â'i ohirio tan ddiwrnod arall."