Neidio i'r prif gynnwy

Anerchiad gan Maria Battle, Cadeirydd

Diweddariad COVID Hywel Dda

Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, diolch i chi am bopeth rydych chi'n ei wneud i'n cefnogi ni yn y GIG a phobl yn ein cymunedau i aros yn ddiogel gartref. Mae'r caredigrwydd a chymorth gan ein staff ein hunain, cymunedau, busnesau, partneriaid awdurdodau lleol, Undeb Rygbi Cymru, y fyddin, y manwerthwyr, y sector wirfoddol a mwy, wedi bod yn llethol. Mae'r rhain yn amseroedd anghyffredin ac mae pawb wedi ein cynorthwyo mewn ffyrdd eithaf anghyffredin. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd mewn ffyrdd newydd ar gyflymder mawr a fydd yn ein galluogi i wrthsefyll y storm yn well gyda'i gilydd. 

Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf mae gwaith ailgyflunio sylweddol wedi digwydd ym mhob un o'n pedair prif ysbyty, sef Bronglais, Llwynhelyg, Glangwilli a'r Tywysog Philip, i ymateb i COVID-19. Dan arweiniad ein clinigwyr a'n rheolwyr ysbyty, mae gan yr ysbytai hyn ardaloedd dynodedig bellach ar gyfer gofalu am gleifion nad ydynt yn rhai COVID-19 a chleifion sydd wedi'u cadarnhau neu eu hamau. Mae yna gyfleusterau dros dro (pebyll neu adeiladau dros dro) y tu allan i'n hadrannau achosion brys, i ganiatáu ar gyfer brysbennu gwahanol gleifion. Mae staff hefyd wedi'u dynodi i weithio mewn meysydd penodol, naill ai COVID-19 neu fel arall er mwyn lleihau risg a diogelu cleifion a staff. Rydym yn ehangu ein capasiti gofal critigol ac yn gwella llif ocsigen ar ein safleoedd ysbytai.

Mae meddygfeydd ar draws Hywel Dda yn mabwysiadu mesurau arbennig i ddiogelu'r cyhoedd a staff. Bydd pob cais am apwyntiad meddyg teulu yn cael ei dreialu dros y ffôn neu drwy ymgynghoriad fideo. Os yw meddyg yn asesu bod angen i glaf gael ei weld, bydd yn gwneud y ddarpariaeth honno.

Nid yw oriau agor y rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol wedi newid fawr ddim, ond efallai y bydd angen i rai weithio y tu ôl i ddrysau caeedig am gyfnod bob dydd oherwydd y nifer uchel o bresgripsiynau y mae angen eu dosbarthu. Gofynnwyd i bob practis meddyg teulu roi gwybod i'w cleifion beth yw eu trefniadau ar gyfer ail bresgripsiynau.

Er mwyn bod mor barod â phosibl, mae staff wedi cael eu defnyddio a'u hyfforddi mewn sgiliau newydd ac mae rhai cyn-staff wedi dychwelyd i'r gwaith. Rydym wedi cynnal ymgyrchoedd recriwtio arbennig ar gyfer nyrsys cofrestredig, gweithwyr cymorth gofal iechyd, gwaith cynnal a chadw medrus, golchdy, arlwyo, staff glanhau a phorthorion. Hyd yma rydym wedi gwneud 700 o gynigion am swyddi ac rydym ar fin hysbysebu am weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Diolchwn yn arbennig i bawb sydd wedi gwneud cais am swyddi gyda ni; mae eich parodrwydd i roi eich hunain ar y rheng flaen i helpu eraill ar yr adeg hon yn galonogol ac yn cael ei werthfawrogi.

Mae'n hanfodol i gynifer o welyau yn ein hysbytai gael eu rhyddhau fel y gallwn ofalu am gleifion COVID-19 a chleifion eraill y mae angen ein gofal arnynt ar frys. Mae'r tri awdurdod lleol wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau y gall cleifion sy'n feddygol iach adael yr ysbyty gyda'r cymorth gofal priodol.  Rydym yn ddiolchgar ac yn gofyn i deuluoedd barhau i'n helpu i ryddhau eu hanwyliaid gartref pan fyddant yn barod.

Mae'r holl weithdrefnau nad ydynt yn rhai brys ac apwyntiadau cleifion allanol wedi'u gohirio felly rydym yn gallu ymateb i'r feirws. Mae clinigwyr hefyd yn gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar risg er budd gorau'r claf o ran gweithdrefnau a gofal brys ac ar fyrder.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol sy'n sefydlu ysbytai maes mewn saith lleoliad (dau wedi'u cydleoli) ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn fwy na dyblu ein sylfaen gwelyau. Mae'r contractwyr wedi gweithio 24/7 i godi'r ysbytai mewn amser arbennig, wedi'u cynghori gan y fyddin a'n harbenigwyr clinigol, cynllunio a logistaidd ein hunain.  Rydym hefyd yn sefydlu partneriaeth gyda’r sector breifat, gan gynnwys Werndale, i gefnogi ein hysbytai drwy drin rhai o'n cleifion sydd angen gofal wedi'i gynllunio.

Yr ydym wedi seilio ein holl dybiaethau cynllunio ar y sefyllfa waethaf posibl o ran achosion, a gafodd eu lliniaru gan y mesurau ymbellhau ac aros gartref a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, a dyna pam y mae mor bwysig inni i gyd ddilyn y mesurau hyn.

Bydd y gwelyau ychwanegol ym Mharc y Scarlets, Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Llanelli, Selwyn Samuel (Llanelli), Bluestone, a Chanolfan Hamdden Aberteifi, ac ysbyty wedi'i leoli yn Ysgol Penweddig a Chanolfan Hamdden Plas Crug, Aberystwyth.

Disgwylir i'r holl safleoedd fod ar waith erbyn diwedd mis Ebrill, gyda safleoedd Sir Gaerfyrddin yn weithredol yn gyntaf. Mae cynllun a dyluniad yr ysbytai maes yn golygu y gallant fod yn hyblyg yn ôl yr angen lleol yng ngoleuni profiad gwirioneddol y pandemig yma yng ngorllewin Cymru. 

Mae gennym hefyd ganolfan orchymyn bwrpasol ar waith sy'n darparu cyd-drefnu profion ar gyfer staff a gweithwyr allweddol eraill ac un pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau staff ar ganllawiau clinigol, gweithredol a'r gweithlu. Mae hefyd yn helpu i gysylltu cynigion o gymorth gan fusnesau lleol â'r Bwrdd Iechyd ac yn paru ceisiadau gan staff drwy'r e-bost COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk 

Mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwersi yn ystod yr achosion hyn ac yn parhau i weithio yn y ffyrdd arloesol newydd gorau ar ôl i'r storm fynd heibio. Rydym wedi sefydlu grŵp ailfeddwl ac arloesi adferiad i ddwyn ynghyd dysgu a phrofiad staff a chleifion i wella ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Fel pob un ohonoch, yr wyf yn ostyngedig ac yn ddiolchgar am ddewrder, ymroddiad a gwasanaeth ein staff rheng flaen sy'n rhoi eu hunain mewn perygl yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

Mae eich cefnogaeth yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Rydym wedi gweld caredigrwydd mawr yn cael ei ddangos i staff-o brydau bwyd cartref a lluniaeth i gynigion llety a cheir llogi.

Mae'n fwy diogel i chi a'n staff fod y cynigion caredig hyn yn cael eu sianelu drwy ein canolfan reoli (drwy'r cyfeiriad e-bost uchod) o hyn ymlaen, yn hytrach nag ymweld â'n safleoedd ac o bosibl peryglu eich iechyd chi a phobl eraill.

Mae'r staff wedi dweud wrtha i sut y mae'r clapio wythnosol a lluniau Enfys yn ffenestri ac ar ochrau ffyrdd wedi eu gwneud yn ddagreuol a rhoi nerth iddynt. Rydym i gyd yn bryderus ar hyn o bryd ac nid yw ein staff yn wahanol. Maent yn poeni'n naturiol am eu hanwyliaid, eu hiechyd eu hunain, eu cydweithwyr yn ogystal â'u cleifion. Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth aruthrol.

Rydym wedi cynyddu ein cymorth seicolegol a llesiant i'n staff yn gyffredinol, ac yn arbennig mewn meysydd allweddol megis gofal dwys. Rydym yn ceisio sicrhau bod gan bob aelod o staff fynediad i'r wybodaeth, yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen i gynnal eu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl. Rydym yn rhoi ystafelloedd tawel yn eu lle i gynnal llesiant yn ystod shifftiau gan ddysgu gan ein cydweithwyr yn yr Eidal a Tsieina.

Cafwyd llawer o sylw yn y cyfryngau am gyfarpar amddiffyn personol i'r staff. Rydym wedi bod yn gwneud popeth y gallwn i gael yr offer diogelwch cywir ar gyfer ein staff, a byddwn yn parhau i wneud hynny, ac mae PPE wedi'i ddosbarthu i bob maes clinigol. Ond rydym yn dal yn bryderus ac yn ddiolchgar i'n gweithgynhyrchwyr lleol a'n hysgolion a'n cymunedau sydd wedi camu i'r adwy i helpu i gynhyrchu  cyfarpar diogelwch. Rydym yn rhoi systemau ar waith i brofi a sicrhau ansawdd unrhyw offer a dderbyniwn a gofyn i bob aelod o staff gysylltu â'r ganolfan reoli os byddant yn derbyn rhoddion o'r fath.

Mewn sawl ffordd, ni yw'r cyntaf yng Nghymru, yn yr unedau profi coronafeirws, adeiladu ysbytai maes, treialu'r defnydd o orchuddion yn llwyddiannus ar gyfer cleifion â phroblemau ar y frest, a gweithgynhyrchu cynnyrch awyru yn lleol.  Mae'r ymateb ar y cyd wedi bod yn ysgubol ac yn ysbrydoledig.

Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflawni cymaint mewn cyn lleied o amser. Diolch am gefnogi eich GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn llwyddo.