Mae Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi gosod ail sganiwr CT dros dro i helpu i leihau amseroedd aros.
Wedi'i leoli yn y cwrt y tu ôl i'r adran cleifion allanol, bydd y sganiwr newydd yn caniatáu sganio cleifion allanol, sydd wedi gorfod aros oherwydd y pandemig, heb fod angen mynd i mewn i'r ysbyty.
Dywedodd Sarah Procter, Uwch-arolygydd Radiograffeg: “Bydd y sganiwr dros dro yn ei le am chwe mis ac mae’n fuddsoddiad pwysig i’n helpu i ddarparu mwy o sganiau mewn amgylchedd diogel, gan ddilyn canllawiau pellhau cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i bawb oedd ynghlwm â chaffael a gosod y sganiwr. "
Rhian Wyn Cooper (Radiograffydd CT) gyda'r Sganiwr newydd.
Y caban sganiwr CT dros dro