Neidio i'r prif gynnwy

Ail gyflwyno gwisgo gorchuddion wyneb yn Ysbyty Tywysog Philip

Arwydd Ysbyty

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau bod yn rhaid i holl staff ac ymwelwyr Ysbyty Tywysog Philip wisgo gorchuddion wyneb (oni bai eu bod wedi’u heithrio) ar unwaith yn dilyn adolygiad o lefelau COVID-19 yn y gymuned.

Mae hyn yn dilyn y penderfyniadau a wnaed yr wythnos ddiwethaf ail gyflwyno y cyfyngiadau ar wisgo gorchuddion wyneb ac ymweld yn Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg.

Bydd ymweliadau’n parhau yn gyffredinol yn Ysbytai Glangwili a Tywysog Philip yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o niferoedd achosion ond mae cyfyngiadau ward lleol mewn lle felly cysylltwch â’r ward i drefnu eich ymweliad ymlaen llaw.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd gwisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter corfforol wrth fynd i ysbyty neu gyfleuster meddygol yn helpu i ddiogelu ein cleifion a'n defnyddwyr gwasanaeth sydd fwyaf agored i niwed. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ac ymdrechion ein cymunedau i atal y lledaeniad, yn enwedig o amgylch pobl sy’n fwy agored i niwed.

“Bydd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu’n barhaus, a chyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny, byddwn yn lleddfu’r cyfyngiadau hyn.”

Mae’r bwrdd iechyd yn pwysleisio pwysigrwydd parhaus yr ymddygiadau y gwyddys eu bod yn lleihau’r achosion o drosglwyddo COVID-19 a chlefydau heintus eraill, a’r gofynion gwahanol sydd ar waith mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Ychwanegodd Mandy: “Hunan ynysu os oes gennym ni symptomau COVID-19, neu glefydau heintus eraill, yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i atal lledaeniad a thorri’r gadwyn drosglwyddo.

“Rydym yn annog yn gryf unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau clasurol, neu sy’n amau ​​bod ganddyn nhw COVID-19 i hunan ynysu a chymryd prawf LFD. Os yw’n bositif, rydym yn annog pobl i barhau â’r un canllawiau ynysu ag sydd wedi bod ar waith – bydd hyn yn eich helpu i orffwys a gwella ac amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo.”

Mae’r mesurau canlynol yn parhau ar waith ar safleoedd Ysbyty Llwynhelyg (diweddarwyd 5PM, dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022):

Holl staff ac ymwelwyr ag Ysbyty Llwynhelyg i wisgo gorchudd wyneb (oni bai eu bod wedi'u heithrio).

  • Mae ymweliadau â chleifion mewnol/wardiau yn cael eu gohirio, ac eithrio ymweliadau diwedd oes ac unrhyw ymweliadau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol trwy gytundeb â phrif nyrs y ward.
  • Gofynnir i bobl sy'n mynychu apwyntiad claf allanol fynychu ar eu pen eu hunain oni bai eu bod angen cymorth gofalwr/perthynas.
  • Profi holl gleifion mewnol pan gânt eu derbyn.

Nid yw ymweliadau mamolaeth wedi newid. Gall partner geni dynodedig ymweld ar ôl cael ei dderbyn i'r ysbyty yn ystod beichiogrwydd, trwy gydol y cyfnod esgor ac ar ôl genedigaeth. Gall partner dynodedig fynychu apwyntiadau cyn geni neu sganiau.

Atgoffodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton bobl i ddilyn camau syml i amddiffyn eu hunain rhag y risg o ddal COVID-19 megis cael eu brechu, gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau gorlawn dan do, a chymryd prawf llif unffordd os oes gennych symptomau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn argaeledd profion llif unffordd am ddim i aelodau'r cyhoedd tan ddiwedd mis Gorffennaf. Ewch i www.gov.uk (yn agor mewn dolen newydd) a chwilio am “archebu prawf llif unffordd”

Os ydych chi, neu rywun rydych yn gofalu amdano ddim ar-lein, gallwch ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119).

Yn nes ymlaen yr wythnos hon bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei strategaeth frechu gyda manylion y dos atgyfnerthu nesaf yn yr hydref.

Dywedodd Syr Frank: “Y brechlyn yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun ac eraill rhag coronafeirws. Er nad yw'r brechlyn yn atal trosglwyddo'n llwyr, mae'n cynnig amddiffyniad rhag salwch difrifol ac yn lleihau'r risg o orfod mynd i'r ysbyty.

“Gallwch barhau i gael y brechlyn os nad ydych wedi cael eich cwrs llawn, neu os oeddech yn rhy sâl i gael eich dos atgyfnerthu yn y gwanwyn a byddwn yn annog rhieni i feddwl am gael y brechlyn ar gyfer eu plant dros fisoedd yr haf i helpu i leihau unrhyw amhariad i’w haddysg yn ystod tymhorau’r hydref a’r gaeaf.”

I drefnu apwyntiad brechlyn, ffoniwch 0300 303 8322 neu e-bostiwch COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymweld a gwisgo gorchuddion wyneb, ewch i wefan y bwrdd iechyd http://hduhb.nhs.wales (yn agor mewn dolen newydd)