Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

9 Hydref 2025

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn ac wedi canfod methiant gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Anfonwyd adroddiad ar ganlyniadau ymchwiliad yr Ombwdsmon at y Bwrdd Iechyd.

Roedd y gŵyn yn ymwneud â mynediad at wasanaethau epilepsi Anabledd Dysgu.

Mae copi o'r adroddiad ar gael ar ein gwefan ac i'w archwilio gan y cyhoedd, yn ddi-dâl, yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Jobswell, Caerfyrddin, SA31 3BB am gyfnod o dair wythnos o ddydd Iau, 9 Hydref 2025.

Gall unrhyw un sy'n dymuno, gymryd copi o'r adroddiad hwn neu ddarnau ohono.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Rydym yn cydnabod canfyddiadau adroddiad yr Ombwdsmon ac yn ymddiheuro’n fawr am y gofid  a achoswyd i gleifion epilepsi Anabledd Dysgu a’u gofalwyr. Nid dyma sut yr ydym am berfformio fel Bwrdd Iechyd a byddwn yn ymdrechu i wella hyn.

“Rydym yn cydnabod bod y ffordd y gwnaethom ymdrin â dileu’r gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu arbenigol a’r ffordd y gwnaethom ymdrin â chwynion cleifion wedi arwain at ddiffyg  ymddiriedaeth yn y Bwrdd Iechyd a rhaid inni ailadeiladu’r ymddiriedaeth hon gyda chleifion a gofalwyr.

“Rydym yn derbyn argymhellion yr Ombwdsmon ac wedi dechrau gweithio ar ffyrdd y gallwn wella. Rydym wedi penodi Nyrs Arbenigol Epilepsi Anabledd Dysgu (LDENS) i gefnogi cleifion a Fferyllydd Anabledd Dysgu sy’n gweithio ochr yn ochr â’n Tîm Cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu ac LDENS.

“Rydym hefyd yn gweithio ar Gynllun Gwella Gwasanaeth Anableddau Dysgu ac yn datblygu model gwasanaeth newydd a fydd yn sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn derbyn mynediad teg, cyfartal a chanolbwyntio ar y person i ofal iechyd.”
 

Lawrlwythwch gopi o Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus 202401728 yma (yn agor mewn tab newydd).

 

Diwedd