Neidio i'r prif gynnwy

Adolygu lleoliadau posib ar gyfer safle ysbyty newydd

21 Hydref 2021

Yr wythnos hon bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn cynnal adolygiad o safleoedd posib fel rhan o'r broses barhaus i ganfod lleoliad addas ar gyfer ysbyty newydd.

Bydd un ar ddeg o safleoedd yn cael eu hasesu ddydd Gwener 22 Hydref, gan gynnwys y rhai a nodwyd gan aelodau’r cyhoedd yn ystod yr ymarfer ymgysylltu chwe wythnos, a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Bwriad y cam hwn o'r broses yw arwain at greu rhestr fer o leoliadau. Bydd hyn yn destun arfarniad manwl pellach gyda chyfranogiad sylweddol gan y cyhoedd a rhanddeiliaid. Y bwrdd iechyd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y safle a ddewiswyd, mewn cytundeb â Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysfol Dda: “Mae adeiladu ysbyty newydd yn brosiect tymor hir o bwys, a dyna pam rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r broses dan sylw.

“Mae'r broses rydyn ni'n ei dilyn yn cynnwys datblygu achos busnes rhaglen i gefnogi ein strategaeth ar gyfer iechyd a gofal yn y gymuned ac mewn ysbytai. Fel rhan o'r broses i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn cyflwyno achos busnes y rhaglen, ac yna achosion busnes amlinellol unigol, yna'r achosion busnes terfynol ar gyfer y seilwaith newydd y bydd ei angen arnom. Felly bydd y bwrdd iechyd yn ymgysylltu â'r cyhoedd yn rheolaidd rhwng nawr a chyflwyno'r achosion busnes terfynol i sicrhau bod eich barn yn cael ei hystyried yn llawn.

“Rwy’n deall ac yn cydnabod bod teimladau angerddol am ysbyty newydd, ond credwn yn gryf fod cyfleuster newydd yn hanfodol ar gyfer gofal brys wedi’i gynllunio yn ne ardal Hywel Dda. Bydd yn darparu gofal trawma ac yn brif adran achosion brys de ein hardal.

“Gallaf hefyd sicrhau’r cyhoedd nad oes gennym unrhyw gynlluniau na bwriad i gau naill ai ysbytai Glangwili neu Llwynhelyg. Byddwn yn ymgysylltu ymhellach ar sut y gallai'r ysbytai hyn weithio ochr yn ochr â'r ysbyty newydd arfaethedig."