Rhagfyr 22, 2021
Mae gwaith wedi dechrau i adeiladu dwy theatr llawdriniaethau newydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli mewn ymgais i fynd i’r afael â rhestrau aros am lawdriniaethau a lleddfu’r pwysau ar draws y rhanbarth.
Bydd y theatrau llawdriniaethau newydd, a fydd yn cael eu hadeiladu diolch i bron i £20 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys ystafelloedd paratoi, ystafelloedd anesthetig, cyfleusterau newid ac ardal adfer.
Bydd gan y theatrau’r capasiti i gynnal 24 sesiwn yr wythnos, yn ymdrin â llawdriniaethau o lawdriniaethau orthopedig, llawdriniaethau cyffredinol, llawdriniaethau wroleg, i therapi fasgwlaidd a laser ar gyfer gwythiennau chwyddedig.
Mae disgwyl i’r cyfleusterau newydd gyflawni oddeutu 4,600 yn ychwanegol o lawdriniaethau dydd y flwyddyn.
Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu ymdrechion i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o bobl sy’n aros am lawdriniaeth yn yr ardal ar ôl oedi a achoswyd gan effaith y pandemig ar ofal wedi’i gynllunio.
Yn ogystal â bod o fudd i gleifion yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sy’n aros am lawdriniaeth, mae disgwyl hefyd y bydd cleifion ar draws rhanbarth ehangach de-orllewin Cymru yn cael budd o’r capasiti ychwanegol y bydd y datblygiad hwn yn ei alluogi.
Fel rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer yr uned newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal ymgyrch wedi’i thargedu i recriwtio staff cymorth, staff theatr a staff clinigol ychwanegol.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Bydd y cyllid hwn o fudd i bobl sydd wedi bod yn aros am driniaeth lawfeddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda drwy gynyddu nifer y llawdriniaethau dydd fwy na 4,600 y flwyddyn.
“Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yn seilwaith y GIG yng Nghymru, i sicrhau ei fod yn ddigon cydnerth a bod ganddo’r capasiti i ofalu am bobl pan fydd ei angen arnyn nhw.
“Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gyhoeddi buddsoddiad o fwy na £170 miliwn mewn gofal wedi’i gynllunio a herio byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau o ran sut y gallan nhw drawsnewid sut y mae eu gwasanaethau yn cael eu darparu a gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael.
“Drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau a thrawsnewid sut rydym yn darparu gofal wedi’i gynllunio y gallwn fynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig ar y GIG yng Nghymru.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Lee Davies: “Mae datblygu capasiti theatr ychwanegol yn garreg filltir bwysig yn ein gwaith o gynllunio tuag at adferiad yn dilyn COVID-19, ac rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect.
“Yn ychwanegol i’r llawdriniaethau dydd ychwanegol yr ydym yn disgwyl eu cyflawni, bydd yr adeilad modiwlar yn helpu i gynnal ein llwybrau “gwyrdd” ar gyfer gofal wedi’i gynllunio yn sgil yr heriau ehangach i’r system gofal heb ei drefnu. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr gyda’n partneriaid prosiect i ddatblygu’r cynllun dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”