15 Mai 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn falch o gadarnhau bod yr achos busnes amlinellol ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd yn Cross Hands wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, gan alluogi’r cynllun i symud i gam nesaf y datblygiad.
Mae'r bwrdd iechyd yn arwain y prosiect mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin a dwy feddygfa leol: Y Tymbl a Phenygroes.
Rhagwelir y bydd y ganolfan yn darparu canolfan ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal, gan gynnwys gwasanaethau iechyd cymunedol sy’n cynnwys meddygfeydd y Tymbl a Phenygroes, gwasanaeth llyfrgell, canolfan blynyddoedd cynnar, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a grwpiau gwirfoddol a thrydydd sector.
Bydd y bwrdd iechyd nawr yn symud ymlaen i’r cam achos busnes llawn ac yn mireinio cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith integredig o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer ardal Aman Gwendraeth ac adeiladu’r ganolfan iechyd a lles.
Dywedodd Rhian Matthews, Cyfarwyddwr System Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin: “Mae cymeradwyo’r achos busnes amlinellol yn newyddion i’w groesawu, ac rydym nawr yn troi ein ffocws at ddatblygu’r achos busnes llawn ar gyfer y cynllun.
“Mae datblygu’r ganolfan hon yn Cross Hands yn flaenoriaeth allweddol i’r bwrdd iechyd a sefydliadau partner ac mae’n ganolog i gyflawni gweledigaeth strategaeth hirdymor y bwrdd iechyd, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw Bywydau Iach, i greu model gofal integredig, sy’n canolbwyntio ar y claf, yn y gymuned ac yn gymdeithasol.”
Gellir dod o hyd i'r achos busnes amlinellol llawn ar gyfer canolfan iechyd a lles Cross Hands yma.