Mae Academi Bentisiaeth Hywel Dda unwaith eto yn agor ei drysau i unrhyw un sydd am ymuno â'r GIG - gallai hyn fod yn gyfle i chi wneud gwahaniaeth i ofal iechyd lleol.
Mae rhaglen newydd yr Academi yn lansio heddiw [4 Chwefror 2021] ac mae wedi’i chynllunio i ddarparu cyfleoedd i’n poblogaeth leol sydd eisiau gweithio ym maes gofal iechyd ond efallai nad oes ganddyn nhw’r cymwysterau priodol neu ddim mewn sefyllfa i ennill cymwysterau.
Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod ein rhaglen brentisiaeth wedi dychwelyd eleni; mae'n gyfle anhygoel i bobl sydd eisiau gweithio yn y GIG ac i ddatblygu eu gyrfa.
“Yn dilyn llwyddiant ein rhaglen 2019, rydym wedi ei ymestyn eleni i gynnwys rolau anghlinigol, megis profiad cleifion, gwasanaethau digidol, llywodraethu corfforaethol, gyda sawl un arall yn cael eu datblygu.”
Fel prentis bwrdd iechyd, byddwch yn dysgu yn y gwaith, gan eich galluogi i ddysgu wrth ennill, ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Gall prentisiaethau gymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i'w cwblhau ac maent ar gael i unrhyw dros 16 oed. Yn ogystal â bod yn y gweithle, byddwch chi'n mynychu'r coleg neu ganolfan hyfforddi i weithio ar eich cymwysterau.
Ymunodd Ryan Davies o Gaerfyrddin â’r cynllun prentisiaeth ym mis Medi 2019 a dywedodd: “Rwyf bob amser wedi mwynhau helpu pobl, felly pan glywais am y cyfle hwn, penderfynais roi cynnig arni. Mae fy lleoliadau wedi bod mewn amryw o rolau gan gynnwys porthorion, arlwyo, domestig, clercio wardiau, cefnogi'r broses brofi COVID-19, ac rydw i nawr yn gweithio fel prentis gofal iechyd yn theatrau yn Ysbyty Glangwili. Rwyf wedi datblygu cymaint o sgiliau newydd o weithio mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol. Mae wedi bod yn brofiad gwych ac rydw i wedi caru pob munud ohono. ”
Ychwanegodd Lisa: “Os ydych chi'n credu y gallai'r cyfle gwerth chweil hwn fod ar eich cyfer chi, ewch i'n tudalen we i gael mwy o wybodaeth a sut i gysylltu â ni."